Gwiwer ‘dieflig’ wedi brathu dros 20 o drigolion tref yn Sir y Fflint

Llun:Corinne Reynolds
Mae gwiwer wedi bod yn creu dinistr yn nhref Bwcle yn Sir Y Fflint gydag adroddiadau ei fod wedi ymosod ar o leiaf 22 o bobl.
Roedd nifer o drigolion wedi rhybuddio eraill am y wiwer ar gyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd Corinne Reynolds, 65, sy’n byw yn yr ardal ei bod hi wedi cael ei chnoi ac wedi llwyddo i ddal y wiwer yn drugarog ar ôl i gymaint o bobl gael eu hanafu.
Ychwanegodd fod gan nifer o bobl “ofn mynd allan” cyn i elusen yr RSPCA ddifa'r anifail.
Darllenwch y stori yn llawn yma.
Llun: Corinne Reynolds