Gwerthiant feinyl yn torri record arall
29/12/2021
Recordiau feinyl
Mae gwerthiant recordiau feinyl wedi parhau â thwf blynyddol yn 2021, gyda gwerthiant ar ei lefel uchaf ers 30 o flynyddoedd.
Gwerthwyd mwy na phum miliwn o recordiau feinyl yn 2021 - sy’n gynnydd o 8% ar y flwyddyn flaenorol yn ôl Sky News, ac yn nodi ei bod yn 14eg flwyddyn yn olynol o dwf ar gyfer y fformat.
Daw’r ffigyrau drwy law y Sefydliad Ffonograffig Brydeinig (BPI).
Dyma'r flwyddyn fwyaf o ran gwerthiannau feinyl ers dechrau'r nawdegau, pan gyhoeddodd yr artist Phil Collins ei albwm, But Seriously.
Ymysg y recordiau mwyaf poblogaidd eleni roedd record 30 gan Adele a Voyage gan Abba.
Llun: Pixabay