Covid-19: Ffigyrau uchaf ar gofnod yn y DU, Ffrainc a'r UDA
Mae’r Deyrnas Unedig, Ffrainc a’r Unol Daleithiau wedi cofnodi eu cynnydd dyddiol uchaf mewn achosion Covid newydd ers i'r pandemig ddechrau, wrth i amrywiolyn Omicron barhau i ledaenu.
Yn y DU, cofnodwyd 129,471 o achosion Covid newydd ddydd Mawrth, y ffigwr uchaf hyd yma ac yn gynnydd ar 98,515 a gofnodwyd ddydd Llun.

https://twitter.com/doctor_oxford/status/1475871661744394251
The number of hospital patients in England with Covid has risen by over 1000 in the last 24 hours.
— Rachel Clarke (@doctor_oxford) December 28, 2021
We now have over 9500 Covid inpatients - the highest number since 3 March.
I cannot believe the government is ignoring this. It’s staggeringly reckless 😔https://t.co/B9CQSE9BGE
Yn y cyfamser, adroddodd Ffrainc y nifer uchaf erioed o achosion dyddiol newydd yn Ewrop.
Cofnodwyd bod 179,807 o bobl wedi cael eu heintio ddydd Mawrth, gyda gweinidog iechyd Ffrainc, Olivier Véran yn rhybuddio y gallai Ffrainc weld cymaint â 250,000 o achosion dyddiol erbyn yr wythnos gyntaf ym mis Ionawr.
Yn yr Unol Daleithiau cofnodwyd dros 440,000 o achosion newydd ddydd Llun.
Ond dywedodd swyddogion y gallai'r niferoedd fod yn "oramcangyfrif" oherwydd oedi mewn cofnodi achosion dros y Nadolig.
Fe wnaeth yr Eidal, Groeg a Phortiwgal i gyd hefyd nodi'r cynnydd dyddiol mwyaf erioed ddydd Mawrth.
Llun: Pixabay