Newyddion S4C

Covid-19: Ceidwadwyr yn galw am gyhoeddi'r dystiolaeth ddiweddaraf

28/12/2021
Mwgwd / Masg / Gorchudd wyneb / Covid

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r dystiolaeth ddiweddaraf sydd wedi arwain at gyflwyno cyfyngiadau newydd yng Nghymru.

Mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies wedi dweud ei fod yn deall pryderon y llywodraeth am ledaeniad amrywiolyn Omicron ac mae'n gofyn am y manylion diweddaraf ar absenoldebau staff o fewn y GIG ac amcangyfrifon dros yr wythnosau nesaf.

Ond, mae'n dweud hefyd y dylai’r llywodraeth gyhoeddi'r nifer presennol o gleifion yn yr ysbyty gyda'r amrywiolyn hwn ac os cawsant eu trosglwyddo yn sgil yr amrywiolyn neu am reswm iechyd arall.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r alwad drwy ddweud fod y cyfyngiadau newydd sydd wedi eu cyflwyno yng Nghymru yn "ymateb cymesur i fygythiad Omicron".

Cafodd nifer o gyfyngiadau newydd eu cyflwyno yma ar Ddydd San Steffan, gyda'r rheol "chwe pherson" yn dychwelyd i leoliadau lletygarwch.

Mae cyfyngiadau ar gyfarfod hefyd, gydag uchafswm o 30 peron yn gallu cwrdd dan do a 50 o bobl y tu allan.

Mae clybiau nos wedi cau eu drysau a'r rhan fwyaf o gemau chwaraeon yn cael eu cynnal y tu ôl i ddrysau caeedig oherwydd y cyfyngiad diweddaraf ar niferoedd.

Image
Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies.  Llun: Senedd Cymru / Welsh Parliament (drwy Flickr)
Dywed Andrew RT Davies ei fod yn "deall yr heriau" sy'n wynebu gweinidogion ar draws y DU.

Dywed Mr Davies fod y cyfyngiadau ar fusnesau yn "niweidiol iawn" i fusnesau yn niwydiannau chwaraeon a lletygarwch yn arbennig.

Yn ei lythyr, ychwanega Mr Davies y dylid cyhoeddi'r dystiolaeth ddiweddaraf yn gyson ynghyd â chyhoeddiadau diweddaraf Llywodraeth Cymru.

Daeth cyhoeddiad gan Ysgrifennydd Iechyd Lloegr Sajid Javid ddydd Llun na fyddai cyfyngiadau newydd yn cael eu cyflwyno'r ochr arall i Glawdd Offa "cyn y flwyddyn newydd".

Ond mae'r Ysgrifennydd Iechyd Cysgodol Wes Streeting wedi galw ar Lywodraeth San Steffan i gyhoeddi'r dystiolaeth ddiweddaraf i sicrhau bod y cyngor gwyddonol yn arwain penderfyniadau yno.

Mae ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos fod y gyfradd o achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth yn 1,004.1 rhwng 17 a 23 Rhagfyr.

Wrth ymateb i lythyr Andrew RT Davies, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Drwy gydol y pandemig, rydym wedi mabwysiadu dull sy'n seiliedig ar wyddoniaeth ac sy'n seiliedig ar dystiolaeth wrth i ni ddiogelu bywydau a bywoliaeth pobl.

“Mae Omicron yn fath o coronafeirws sy'n symud yn gyflym ac sy'n heintus iawn. Er bod yr astudiaethau rhagarweiniol hyn yn rhoi cysur a gobaith am ddifrifoldeb y clefyd, os yw'r don hon yn heintio nifer fawr o bobl, bydd yn cael effaith ar wasanaethau cyhoeddus a'r economi oherwydd absenoldebau staff; gallai achosi ymchwydd yn y nifer sydd angen gofal yn yr ysbyty, ar adeg pan fo'r GIG eisoes ar ei brysuraf, a gallem weld mwy o farwolaethau yn anffodus.

“Rydym yn cymryd y cyngor gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau o ddifri pan fyddant yn dweud bod cymryd camau yn gynharach yn cael mwy o effaith cadarnhaol ar y sefyllfa. Mae'r mesurau lefel rhybudd dau a'r canllawiau cryfach, a gyflwynir o Ŵyl San Steffan, yn ymateb cymesur i fygythiad Omicron."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.