Penodi 'Pencampwr y Gymraeg' cyntaf y Weinyddiaeth Amddiffyn

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi penodi "Pencampwr y Gymraeg" cyntaf ers ei sefydlu.
Daw hyn fel rhan o ymdrech ehangach i ymgysylltu â chymunedau Cymraeg eu hiaith yng Nghymru, yn ôl Nation.Cymru.
Comodor yr Awyrlu Adrian Williams, sef swyddog uchaf yr RAF yng Nghymru, sydd wedi ei benodi i'r rôl.
Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn mae'r bwriad oedd i helpu'r Lluoedd i weithio'n ddwyieithog yn ôl yr angen.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Y Weinyddiaeth Amddiffyn