Y Rhondda: Ystyried cynllun i agor y llwybr cerdded hiraf yn Ewrop drwy dwnnel

Twnnel Rhondda

Fe allai cynllun i agor y llwybr cerdded hiraf yn Ewrop trwy dwnnel yn y Rhondda fod gam yn agosach os yw'n derbyn caniatâd ddydd Iau.

Agorwyd Twnnel y Rhondda, sydd bron i ddwy filltir o hyd, yn 1890 i gludo glo o Gwm Rhondda i Fae Abertawe i'w allforio, ond cafodd ei gau i drafnidiaeth rheilffordd yn 1968. 

Cafodd y ddwy fynedfa eu cau gan wastraff o'r pyllau glo erbyn 1981.  

Mewn cyfarfod o bwyllgor cynllunio Cyngor Rhondda Cynon Taf bnawn Iau, fe fydd aelodau yn ystyried rhoi eu sêl bendith i gam cyntaf y cynllun, sef cloddio'r gwastraff o ben Blaencwm o'r twnnel a'i symud i ardal gyfagos ar gyfer tirlunio.

Dywed y cais cynllunio mai dyma fydd "cam cyntaf prosiect a fydd yn y pen draw yn gweld Twnnel y Rhondda yn cael ei ailagor a'i addasu i ddarparu llwybr cerdded a beicio".

"Bydd agor y porth yn helpu i hwyluso unrhyw atgyweiriadau a chynnal a chadw angenrheidiol a bydd yn cynrychioli dechrau symbolaidd prosiect sydd wedi bod yn y cyfnod trafod ers nifer o flynyddoedd," meddai.

Bydd mynediad i'r twnnel yn parhau i fod yn gyfyngedig nes bod y gwaith atgyweirio wedi'i gwblhau os bydd y cynllun yn cael ei gymeradwyo.

Bydd yr ardal yn cael ei dirlunio fel cam cyntaf er mwyn creu parc gwledig yn y dyfodol, a fydd yn cynnwys canolfan ymwelwyr ac atyniadau eraill.

Yn ôl Cymdeithas Twnnel y Rhondda, mae rhan o'r cyllid i ddatblygu'r twnnel eisoes wedi'i addo, "ond bydd angen i'r gymdeithas godi'r gweddill, a bydd yn gwneud hynny drwy amrywiaeth o fentrau codi arian".

Image
Llun Archif y Twnel

Y cam nesaf

Unwaith y bydd y gwaith ym Mlaencwm yn dechrau, y cam nesaf fydd datgelu'r fynedfa arall ym Mlaengwynfi yng Nghwm Afan.

Perchennog y twnnel ar hyn o bryd yw Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU, ac mae dan reolaeth Priffyrdd Lloegr.  

Mae rheolau perchnogaeth yn gwahardd ei ail agor heb i’r berchnogaeth drosglwyddo i gorff cyhoeddus arall fyddai'n gyfrifol amdano.

Cynhaliodd Balfour Beatty arolwg manwl yn 2018 er mwyn dod o hyd i amcangyfrif cost y cynllun i greu twnnel cerdded a beicio.

Yr amcangyfrif oedd cost o £13.11 miliwn. 

Amserlen

Mae Cymdeithas Twnnel y Rhondda yn credu y byddai angen cyfnod adeiladu o 18 mis i gwblhau'r gwaith, gyda blwyddyn ychwanegol i gymeradwyo’r cynllun.

Nod y cais cynllunio yw datgelu mynedfa Blaencwm i Dwnnel y Rhondda drwy ail-gloddio'r toriad rheilffordd yn rhannol. 

Wrth siarad cyn y cyfarfod, dywedod Cadeirydd Twnnel y Rhondda, Steve Mackey: "Mae hyn wedi bod yn dod ers amser maith.

"Bydd datgelu'r Porth ar ôl 46 mlynedd yn gam mawr ymlaen i'r campwaith hanesyddol pwysig hwn o beirianneg Fictoraidd."

Mae swyddogion cynllunio wedi awgrymu y dylid caniatáu'r cais cynllunio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.