Bysys ysgol: Rhieni'n ystyried tynnu eu plant o addysg Gymraeg

Newyddion S4C

Bysys ysgol: Rhieni'n ystyried tynnu eu plant o addysg Gymraeg

Mae rhai rhieni yn ne Cymru wedi dweud eu bod nhw wedi gorfod ystyried tynnu eu plant allan o addysg Gymraeg yn dilyn newidiadau i gludiant ysgol yn eu hardaloedd. 

Ers mis Medi, mae rheolau ynglŷn â pha ddisgyblion sy'n cael bws ysgol am ddim wedi newid mewn rhai siroedd. 

Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae’r newidiadau’n golygu nad yw plant ysgol gynradd sy'n byw o fewn dwy filltir i'w hysgolion bellach yn cael bws am ddim. 

Tair milltir yw'r trothwy ar gyfer cludiant am ddim i blentyn mewn addysg uwchradd a cholegau yn Rhondda Cynon Taf.  

Yn y gorffennol, roedd y pellter yn ddwy filltir neu fwy.

Image
Kim Richards-Guy
Kim Richards-Guy

Mae Kim Richards-Guy yn byw gyda’i theulu ym Mhont-y-clun yn Rhondda Cynon Taf, ac mae hi'n teimlo bod y sefyllfa’n “rhwystro” mynediad at addysg Gymraeg yn Ysgol Llanhari.

“Hoffwn i ystyried ysgol Saesneg,” meddai. “Ond ar ddiwedd y dydd, mi oedd yn rhaid i ni benderfynu a natho ni penderfynu bod addysg Cymraeg yn rhy bwysig. 

“A o’n i’n teimlo bod yr achos trafnidiaeth yn rhwystr. Mae’r cyngor yn dweud eu bod nhw’n hyrwyddo mynediad i addysg Gymraeg ond gyda ni, maen nhw wedi rhwystro hynna.”

Image
Megan Hiscox
Megan Hiscox

Mae Megan Hiscox hefyd yn fam yn yr ardal, ac mae hi'n talu cannoedd o bunnoedd er mwyn sicrhau lle i’w dau o blant ar y bws ysgol.

“Mae ‘da nhw lle ar y bws ond mae wedi achosi dros £300 i ni ‘neud," meddai.

“Byse fe’ lot haws i’r plant cerdded i’r Pant [ysgol cyfrwng Saesneg] so os oedda ni ddim yn passionate amdano nhw yn cael yr addysg Cymraeg, byse hwnna wedi bod yn lot haws.

“Yr effaith mae ‘di cael ar ni fel teulu yw bod ni’n aildrefnu’r amser ‘da ni’n mynd i gweithio er mwyn gyrru nhw i’r ysgol.

“Ni ‘di trial cael nhw i gerdded ond dyw e ddim yn saff, does dim pafin ar hyd y ffordd.” 

'Gwaith anodd'

Mae teulu Sarah Payne o Faesteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd â tair o ferched yn byw 1.9 milltir o ysgol gynradd Cynwyd Sant, gan olygu nad oes modd iddyn nhw bellach gael cludiant ysgol am ddim. 

Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Ms Payne bod ei rhieni wedi gorfod newid eu swyddi a’u patrymau shifft yn y gwaith er mwyn helpu i gludo ei merched i’r ysgol. 

“Hefyd mae’r gŵr yn self-employed so nawr bod y byses ddim ar, mae’r oriau mae’n cael i weithio wedi lleihau," meddai.

Image
Sarah Payne
Sarah Payne

Mae'r parchedig Andrew Norbury o gapel Peniel Maesteg hefyd yn gorfod bod yn drefnus er mwyn sicrhau fod ei fab yn cyrraedd Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd.

“Mae tair teulu nawr, ni’n helpu ein gilydd i trial cael y plant i’r ysgol achos s’dim bws yn gallu mynd a nhw," meddai.

“Ni’n byw jyst o dan tri filltir o’r ysgol a mae'n rhaid i ni drefnu rhwng ein hunain sut i gael y plant i’r ysgol.

“Mae ‘di gweithio mas, ond mae’n gwaith galed i ‘neud hynny.” 

Image
Y parchedig Andrew Norbury
Y Parchedig Andrew Norbury 

'Dim atebion hawdd'

A hithau’n cynrychioli’r ardaloedd fel Aelod o'r Senedd dros Ganol de Cymru, mae Heledd Fychan o Blaid Cymru yn dweud ei bod yn “siomedig” gyda'r sefyllfa.

“Mae’n siomedig dros ben bod ‘ni ‘di gweld dim gweithredu o gwbl ar hyn gan Lywodraeth Llafur Cymru yn y blynyddoedd diwethaf ‘ma," meddai.

“Er gwaethaf adolygiadau di-ri, er gwaethaf cydnabyddiaeth bod y system fel mai ddim yn gweithio, ac er gwaethaf bod ni ‘di gweld darpariaeth yn gwaethygu ledled Cymru.

“Be’ nesh i ofyn wrth Lywodraeth Llafur Cymru i ‘neud oedd cadw’r darpariaeth fwy hael oedd ganddo ni yna tra oeddwn ni’n gweithio ar hyn.

“Ond yn sicr un o’r pethau eraill sydd yn amlwg yw bod y canllawiau stadudol ddim chwaith yn cael ei gweithredu a mae hynna’n rhywbeth y galle’r Llywodraeth fod yn ‘neud rŵan.”

Image
Heledd Fychan AS
Heledd Fychan AS

Does dim “atebion hawdd” i bryderon rhieni, yn ôl Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru, Ken Skates. 

Mae'n dweud bod Llywodraeth Cymru’n benderfynol o wneud teithio’n “fwy hygyrch, fforddiadwy a diogel” i ddisgyblion.

Bydd hyn yn cynnwys newidiadau arfaethedig i wasanaethau bws yn ogystal â’r £22m sydd eisoes wedi ei fuddsoddi yn y cynllun i ddarparu tocynnau am £1 i bobl ifanc, meddai.

Mae dros £205 miliwn yn mynd tuag at drafnidiaeth ysgol bob blwyddyn, a'r arian hwnnw'n dod o gyllidebau addysg.  

Ond gydag etholiad Senedd Cymru ar y gweill fis Mai, does dim disgwyl i unrhyw newidiadau ddod i rym yn y dyfodol agos.

Ar ôl cyhoeddi adolygiad o'r drefn yn 2022 fe ddywedodd Llywodraeth Cymru na fyddai unrhyw beth yn newid cyn yr etholiad nesaf oherwydd prinder amser i ddeddfu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.