Denmarc: Trump yn benderfynol o ‘oresgyn’ yr Ynys Las

Rasmussen a Motzfeldt

Mae gweinidog tramor Denmarc wedi dweud bod Donald Trump yn parhau yn benderfynol o “oresgyn” yr Ynys Las ar ôl cyfarfod yn y Tŷ Gwyn ddydd Mercher.

Roedd Gweinidog Tramor Denmarc, Lars Løkke Rasmussen, a Gweinidog Tramor yr Ynys Las, Vivian Motzfeldt, wedi gobeithio y byddai’r cyfarfod yn datrys yr anghytundeb.

Roedd y ddau wedi cwrdd ag Is-Arlywydd yr UDA, JD Vance, ac Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Marco Rubio, yn y Tŷ Gwyn.

Ond methodd y cyfarfod â dod i benderfyniad, y tu hwnt i sefydlu gweithgor i fynd i’r afael â phryderon ynghylch rheolaeth dros yr ynys.

“Dylai’r grŵp, yn ein barn ni, ganolbwyntio ar sut i fynd i’r afael â phryderon diogelwch America, tra ar yr un pryd yn parchu llinellau coch Teyrnas Denmarc,” meddai Rasmussen.

Ond fe ychwanegodd: “Wnaethon ni ddim llwyddo i newid safbwynt America.

“Mae’n amlwg bod gan yr arlywydd yr awydd i oresgyn yr Ynys Las.”

Roedd “anghytundeb sylfaenol” yno ar gynlluniau’r Unol Daleithiau, a oedd, meddai, yn “gyfan gwbl annerbyniol”.

Galwodd Motzfeldt am gydweithrediad â’r Unol Daleithiau ond dywedodd nad oedd yr Ynys Las eisiau bod “yn eiddo i’r Unol Daleithiau”.

Mae gweinyddiaeth Trump wedi dweud bod Tsieina a Rwsia yn peri bygythiad i fuddiannau’r Gorllewin yn yr Arctig.
Mae cynghreiriaid Ewropeaidd Denmarc wedi cynnig ehangu cydweithrediad diogelwch gyda’r Unol Daleithiau yno.

Ond ddydd Mercher, fe wnaeth Trump ategu ei safbwynt bod angen i’r Unol Daleithiau gymryd rheolaeth o’r Ynys Las at ddibenion “diogelwch cenedlaethol”.

Llun gan Reuters / Nathan Howard.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.