'Calon gynhesaf Caernarfon yn dal i guro': Gosod mainc i gydnabod heriau iechyd dynes leol
Bydd mainc goch yn cael ei gosod yng Nghaernarfon ddydd Iau i gydnabod dynes o'r dref a gafodd ei geni gyda chlefyd cardiofasgwlaidd ac sydd wedi goroesi ataliad ar y galon.
Cafodd Sarah Tyler Davies, 45 oed, ei geni gyda chyflwr calon prin lle mae'r ddau brif rydweli yn y galon wedi eu cyfnewid.
Ddiwrnod yn unig ar ôl ei genedigaeth, cafodd ei rhuthro i'r ysbyty yn Lerpwl am driniaeth frys, gan gael ei llawdriniaeth gyntaf yn wyth mis a hanner oed.
Fe aeth ymlaen i gael nifer o driniaethau dros y blynyddoedd, gan gynnwys llawdriniaeth balŵn yn naw oed a chael stent wedi'i osod yn 14 oed.
Er gwaethaf ei heriau iechyd roedd y fam i ddau yn byw bywyd arferol - nes iddi gael ataliad ar y galon yn ei chartref yn 30 oed.
Dywedodd Sarah fod ei chi, Bonnie, wedi deffro ei gŵr, Aled, a wnaeth "achub" ei bywyd drwy roi CPR iddi wrth ddisgwyl am barafeddygon.
"O'n i'n teimlo bod fy nghorff i wedi gadael fi i lawr, o'n i'n meddwl bod gen i fwy o amser," meddai wrth Newyddion S4C.
"Mi fysa’r diwrnod yna wedi gallu bod yn hollol wahanol heb y ci, heb Aled yn rhoi CPR i fi a heb y paramedics yn dod i fyny i’r tŷ mewn dwy funud."
Ar ôl sawl diwrnod yn yr ysbyty mewn coma, deffrodd Sarah a chafodd diffibriliwr cardioferter ei osod o dan ei chroen.
Mae'r ddyfais yn monitro rhythm calon ac yn rhoi sioc drydanol i gywiro curiadau cyflym sy'n peryglu bywyd.
Pymtheg mlynedd yn ddiweddarach, mae Sarah yn byw bywyd i'r eithaf ac yn nain i wyres fach.
Ond mae hi'n dweud bod y diwrnod y cafodd ataliad ar y galon - 25 Chwefror - yn ddyddiad pwysig iddi.
"Mi ydw i'n sbïo ar y diwrnod yna fel penblwydd arall mewn ffordd," meddai Sarah.
"Dwi’n teimlo bod y diwrnod yna yn nodi dechrau ail fywyd - a dwi'n teimlo reit emosiynol ar y diwrnod yna."
Ers hynny, mae Sarah wedi bod yn angerddol dro godi ymwybyddiaeth am iechyd y galon ac yn annog pawb i gael hyfforddiant CPR.
Er mwyn dathlu bywyd Sarah, bydd Sefydliad Prydeinig y Galon yn gosod mainc goch ym Mharc Coed Helen yng Nghaernarfon.
Cafodd y fainc ei chreu gan grŵp o oedolion gydag anghenion dysgu ychwanegol yng Ngwynedd.
Mae plac ar y fainc yn dweud: "Bydd calon gynhesaf Caernarfon yn dal i guro, diolch i help gwaith ymchwil gwyddonol.
"Ond mae mwy i'w wneud. Rhowch nawr i'n cadw ni'n curo."
Dywedodd Sarah ei bod yn "falch" i fod yn un o ddwsinau o bobl sydd wedi cael y cyfle i rannu eu stori fel rhan o ymgyrch gan Sefydliad Prydeinig y Galon.
"Maen nhw wedi gofyn i fi, Sarah - dynes 45 oed sy'n dod o Gaernarfon ac sy'n fam ac yn nain - i gynrychioli fi, fy nheulu, ffrindiau a pawb eraill sydd wedi bod drwy wbath tebyg i fi, neu sy'n nabod rhywun sydd wedi bod drwy wbath tebyg ac mae'n amazing," meddai.
"Mae lle mae’r fainc yma yn mynd i fod yn sbesial iawn i bobl yr ardal - rwla i isda a cymryd natur i mewn."
I nodi 65 mlynedd ers i Sefydliad Prydeinig y Galon ddechrau ariannu ymchwil sy’n achub bywydau, mae’r elusen yn datgelu 65 o feinciau coch ar draws y Deyrnas Unedig i ddathlu bywydau'r rhai sy’n byw gyda chlefyd cardiofasgwlaidd.
Mae rhywun yn y Deyrnas Unedig yn marw o glefyd cardiofasgwlaidd bob tri munud.
Ac ar hyn o bryd mae mwy na 400,000 miliwn o bobl yng Nghymru yn byw gyda'r clefyd.
