Janice Long wedi marw yn 66 oed

Mae’r cyflwynydd BBC Radio a Top of the Pops, Janice Long, wedi marw ar Ddydd Nadolig yn 66 mlwydd oed wedi cyfnod byr o salwch.
Bu’n cyflwyno rhaglen ar BBC Radio Wales ers 2017.
Cafodd yrfa o dros bum degawd o hyd a hi oedd y fenyw gyntaf i gael ei rhaglen ddyddiol ei hun ar Radio 1.
Mae cyfarwyddwr cyffredinol y BBC Tim Davie wedi ei disgrifio fel “cyflwynydd serol”.
Dywedodd pennaeth BBC Radio Wales Colin Paterson mai "ychydig iawn o bobl sydd wedi gwneud mwy i feithrin talent newydd o fyd cerddoriaeth a'r celfyddydau."
"Fe ddaeth a'i hangerdd am gerddoriaeth i Radio Wales yn 2017, gan gefnogi artistiaid Cymreig a cherddoriaeth iaith Gymraeg fyth ers hynny - mi fyddwn ni'n colli ei hangerdd, ei dealltwriaeth a'i chwerthiniad."
Darllenwch y stori'n llawn yma.