Covid-19: 5,335 achos newydd a thair marwolaeth yn rhagor
Mae 5,335 yn rhagor o achosion o Covid-19 wedi eu cofnodi yn ôl ystadegau dyddiol diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cafodd tair marwolaeth newydd eu cofnodi ac mae'r gyfradd achosion ymhob 100,000 o'r boblogaeth dros saith diwrnod yn 724.9.
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn cynnwys y 24 awr wnaeth arwain at ddydd Gwener, 24 Rhagfyr.
Mae’r gyfradd achosion bellach mor uchel ag lefelau yn ystod mis Hydref, lle’r oedd y gyfradd yn 730.9 ymhob 100,000 o’r boblogaeth.
Bellach mae 582,378 achos positif wedi eu cofnodi ers dechrau'r pandemig, gyda 6,548 o farwolaethau yn gysylltiedig â'r haint wedi eu cofnodi yng Nghymru.
Mae'r gyfradd ar ei huchaf yn ardaloedd awdurdodau lleol Caerdydd (1,017.4), Ynys Môn (969.4) a Bro Morgannwg (850.4).
Hyd yma mae 2,486,737 o bobl wedi derbyn o leiaf un brechiad rhag Covid-19, mae 2,296,242 wedi derbyn dau ddos, ac mae 1,490,668 o bobl wedi derbyn 'hwblyn', neu ddos ychwanegol ar ôl eu dosau cyntaf.
Gallwch ddod o hyd i'r ffigyrau diweddaraf ar nifer yr achosion, marwolaethau a brechiadau ar ddashfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yma.