
Cyfyngiadau Covid newydd yn dod i rym yng Nghymru
Mae cyfyngiadau newydd wedi dod i rym yng Nghymru ddydd Sul i ymateb i ledaeniad amrywiolyn Omicron.
Cafodd y rheolau newydd eu cyhoeddi gan y Prif Weinidog Mark Drakeford mewn cynhadledd ddydd Mercher.
Nid oes hawl gan fwy na 30 o bobl gwrdd dan do, gan gynnwys mewn cartrefi preifat ac ni fydd mwy na 50 o bobl yn cael cwrdd yn yr awyr agored, gan gynnwys i wylio gemau chwaraeon cymunedol.

Bydd gemau chwaraeon nad ydynt yn rhai cymunedol ac sydd heb eu gohirio yn sgil Covid-19 yn cael eu chwarae'r tu ôl i ddrysau caeedig.
Mae clybiau nos wedi gorfod cau eu drysau a'r rheol "chwe pherson" bellach wedi dychwelyd i leoliadau lletygarwch, theatrau a sinemâu.
Bydd angen sicrhau dau fetr o bellter cymdeithasol mewn swyddfeydd a lleoliadau cyhoeddus, gyda chyngor cryf i weithio o adref yn parhau.

Mae cyngor hefyd i bobl gymryd prawf llif unffordd cyn mynychu partïon priodas a phartneriaethau sifil, neu wylnos.
Mae arbenigwyr yn meddwl bod amrywiolyn Omicron yn lledaenu'n gyflymach nag amrywiolyn Delta.
Serch hynny, mae sawl astudiaeth yn awgrymu bod y risg o bobl yn mynd yn ddifrifol wael a gorfod cael eu cludo i'r ysbyty dipyn yn is.
Mae'r llywodraeth ac asiantaethau iechyd yn pwysleisio ar bobl i gael eu brechiad atgyfnerthu, gyda tharged i gynnig brechiad i bawb dros 18 oed erbyn diwedd mis Rhagfyr.