Y codwr pwysau Myrddin John wedi marw
Mae'r cyn-godwr pwysau Myrddin John wedi marw yn 88 oed.
Cynrychiolodd Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad Caerdydd yn 1958 a threuliodd nifer o flynyddoedd yn gweithio yn y maes.
Aeth ymlaen i gyflawni nifer o roliau, gan gynnwys ysgrifennydd cyffredinol Ffederasiwn Codi Pwysau Cymru, cadeirydd y Gymdeithas Brydeinig ac ysgrifennydd cyffredinol Ffederasiwn Codi Pwysau'r Gymanwlad.
Bu hefyd yn is-lywydd Ffederasiwn Codi Pwysau'r Byd.
Cafodd Myrddin John ei eni yn Betws, ger Rhydaman yn Sir Gaerfyrddin ar 20 Rhagfyr 1933.
Fe'i magwyd yng Nglanaman, a threuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn yr ardal.
Mynychodd Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman lle ddechreuodd ei ddiddordeb mewn chwaraeon, a chodi pwysau yn arbennig.
Treuliodd gyfnod yn yr Awyrlu cyn mynd ymlaen i gystadlu yn y Pencampwriaethau Cymreig lle enillodd yn ei gategori.
Fe ymddeolodd o'r maes yn 2011.
Yn ystod ei yrfa, roedd hefyd yn ysgrifennydd cyffredinol ar Gyngor Gemau Gymanwlad Cymru ac mae'r corff wedi rhoi teyrnged iddo.
’It is with great sadness to hear of Myrddin John’s passing. He has been a significant & respected influence in Welsh sport over the years. We send our heartfelt condolences to his family at this difficult time.’
— Team Wales 🏴 Tîm Cymru (@TeamWales) December 24, 2021
Helen Phillips, CGW Chair on former Secretary General Myrddin John. pic.twitter.com/O1dB00bq1T
Dywedodd Helen Phillips, cadeirydd Gemau Gymanwlad Cymru: "Mae'n destun tristwch mawr i glywed am farwolaeth Myrddin John.
"Mae e wedi bod yn ddylanwad arwyddocaol ac uchel ei barch yn chwaraeon Cymru dros y blynyddoedd.
"Rydym yn anfon ein cydymdeimladau twymgalon i'w deulu ar yr adeg anodd hon."
Llun: Tîm Cymru