
Ail gartrefi: 'Wedi derbyn fod hi'n annhebygol fyddai’n gallu byw yma'

Ail gartrefi: 'Wedi derbyn fod hi'n annhebygol fyddai’n gallu byw yma'
Er yn wreiddiol o ardal Penrhyndeudraeth mae teulu Catrin Roberts wedi gosod eu gwreiddiau yn ardal Morfa Nefyn ers cenedlaethau.
Fe dreuliodd blynyddoedd yn teithio nôl a mlaen o’r ardal pan yn blentyn wrth ymweld a'i nain a’i thaid ac yn dweud iddi deimlo’n ffodus iawn o etifeddu’r tŷ, lle ma’i bellach yn magu ei theulu yno.
Mae Catrin wedi bod yn llais amlwg yn yr ymdrech i godi ymwybyddiaeth am yr argyfwng ail gartrefi ond er iddi groesawu’r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael a’r broblem yn gynharach eleni, mae hi dal yn poeni am ddyfodol yr ardal.
Yn ôl merch Catrin, Nel sy’n 16 oed, mae hi wedi derbyn fod hi’n annhebygol y bydd hi’n gallu fforddio aros yn y pentre’ lle ei magwyd hi.
Wrth edrych yn ôl ar flwyddyn o weithredu a chyhoeddiadau yn sgil ail gartrefi yng Nghymru, fe aeth Newyddion S4C ar daith gerdded o gwmpas Morfa Nefyn gyda Catrin a Nel.
'Mai yn wag yma'
Mae’r gwahaniaeth sydd i weld rhwng y gaeaf a'r haf ym Mhen Llŷn yn drawiadol.
Yn ystod y misoedd braf mae hi bron a bod yn amhosib parcio ym Morfa Nefyn, mae’r traeth yn llawn a bwrlwm ar hyd strydoedd y pentref.

Golwg tra wahanol sydd yna ar brynhawn oer a gwlyb ym mis Rhagfyr.
“Mai yn wag iawn yma”, meddai Catrin.
“Mai’n ardal hyfryd, dyma’r lôn sy’n arwain ni lawr at y traeth ac mae’r rhan fwyaf o’r tai sydd yn yr ardal yma yn ail gartrefi”
Wrth gerdded ar hyd y stryd dawel fe bwyntiodd Catrin at nifer o dai sydd bellach yn ail gartrefi neu’n dai haf.
“Mae 'na fflatiau gwyliau moethus ym mhen y lôn fan hyn, roedd y penthouse yn mynd am filiwn ac mae hynny ‘di cael effaith ar brisiau tai eraill”.
“Mae 'na dŷ yn mynd am hanner miliwn o bunnoedd ac wedyn rhes o dai, hen dai ar dop y lôn- mae tŷ teras bychan efo croglofft yn mynd am bron i dri chan mil”.
Yn ôl Catrin mae hi’n teimlo’n ffodus iawn i gael byw mewn ardal hardd sydd â chymuned glos ond mai’n dweud mai’r pryder ydi na fydd modd i’w phlant hi a chenedlaethau o blant sydd i ddod brofi’r un gymuned.
Mae gweithredu a phrotestio wedi bod amlwg iawn ym Mhen Llŷn ar y pwnc hwn ers degawdau.
Uwchlaw pentref Nefyn llosgwyd tŷ haf ar noson gyntaf Meibion Glyndŵr, ac yn Llanbedrog cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y mudiad ‘Cymuned’ ugain mlynedd yn ôl.
Eleni, rhai o aelodau cyngor tref Nefyn sydd wedi arwain protestiadau Hawl i Fyw Adra.

Ym mis Tachwedd 2021 fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun peilot yn ardal Dwyfor fyddai’n rhoi pwerau newydd i gynghorau gyfyngu ar nifer yr ail gartrefi.
Mai’n bosib byddai rhaid cael caniatâd i drawsnewid tai hefyd.
Mae Rhys Tudur wedi bod yn un o’r ymgyrchwyr mwyaf brwd ac yn croesawu’r cyhoeddiad fel cam cyntaf.
'Arwydd o ewyllys gan y llywodraeth'
“Cyn y cyhoeddiad doedd gynom ni ddim math o arwydd fod unrhyw fath o ewyllys gan y llywodraeth i daclo’r sefyllfa ond da ni’n gwybod bod 'na rŵan”.
“Mae rhaid inni barhau rŵan i sicrhau’r mesurau ‘da ni eisiau i daclo’r argyfwng yma”.
Wrth gydnabod fod 'na le i rai llety gwyliau sydd o bosib yn cyfrannu i'r economi leol, mynnodd fod ‘na lai o fudd’ i dai haf i rheini sy’n dod yma ambell dymor y flwyddyn.
Angen diogelu'r dyfodol
Ym Morfa Nefyn a hithau wedi noson bellach fe aeth Catrin a’i merch Nel o gwmpas stad o dai cyfagos.
Gyda dim ond ambell i olau tŷ ymlaen mae’r ddwy yn dweud dyma sut ddyfodol all yr ardal hon wynebu os nad oes rhywbeth yn newid.
“Mi allai'r rhain fod yn dai a chartrefi i deuluoedd lleol, yn olau, yn gynnes ac adeg yma’r flwyddyn wedi eu haddurno gyda golau dolig ond anffodus nid felly mae hi”, meddai Catrin.

Wrth gerdded ar hyd y strydoedd tywyll oedd wedi eu goleuo gan ambell lamp stryd dywedodd merch Catrin, Nel, nad oedd hi’n hyderus y byddai hi’n gallu bod yn rhan o ddyfodol y pentref.
“Mae o bron yn rhywbeth ‘da ni wedi derbyn... pan fyddai’n hŷn, mae'n annhebygol fyddai’n gallu byw yma oni bod rhywbeth yn digwydd.
“Mae’n rhaid i rywbeth ddigwydd er mwyn arbed y sefyllfa rhag gwaethygu oherwydd mae’n gwaethygu bob blwyddyn.
“Mae 'na fwy a fwy yn dod yma bob blwyddyn, mwy a mwy o dai haf a llai o gobl lleol yn byw yma”.
Erbyn hyn mae 30% o stoc dai Morfa Nefyn yn dai gwyliau.
Dim ond trwy weithredu polisïau cadarn y bydd modd creu newid yn ôl y fam a merch yma.
Fydd y ddwy yn aros yn eiddgar i weld a fydd arbrawf Llywodraeth Cymru’n ddigon i achub dyfodol y gymuned hon.
Newyddion y Flwyddyn 2021, 19:00 ar S4C.