£120m o gymorth ariannol i fusnesau sydd wedi'u heffeithio gan gyfyngiadau newydd Covid-19
Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £120m o gymorth ariannol ar gael i fusnesau fydd y cael eu heffeithio gan gyfyngiadau newydd Covid-19.
Cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ddydd Mercher y bydd Cymru yn symud i rybudd lefel dau o 26 Rhagfyr, a hynny mewn ymateb i ledaeniad yr amrywiolyn Omicron.
Bydd cyfyngiadau yncael eu hail gyflwyno i fusnesau lletygarwch, gan gynnwys lleoliadau trwyddedig, ac mewn sinemâu a theatrau pan fyddan nhw’n ailagor ar ôl cyfnod y Nadolig.
Mae Gweinidog yr Economi, Vaughn Gething wedi cyhoeddi pecyn o gymorth ariannol ychwanegol ddydd Iau ar gyfer y busnesau sydd yn cael eu heffeithio gan y rheolau newydd.
Bydd gan fusnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth sy'n talu Ardrethi Annomestig hawl i dderbyn taliad o unai £2,000, £4,000 neu £6,000 - yn dibynnu ar werth a maint y busnes.
Gall busnesau yn y sector hamdden a lletygarwch hefyd wneud cais am gyllid ychwanegol trwy'r Gronfa Cadernid Economaidd, lle all busnesau dderbyn grantiau rhwng £2,500 a £25,000 yn dibynnu ar eu maint a'u nifer o weithwyr.
Bydd awdurdodau lleol hefyd yn darparu cronfa i fusnesau a masnachwyr sydd ddim yn talu ardrethi.
'Parhau i fonitro'r effaith'
Dywedodd Vaughn Gething: "Rydym yn deall yn iawn yr heriau parhaus sy'n wynebu busnesau, ond rydym yn wynebu sefyllfa ddifrifol iawn yng Nghymru.
"Mae ton o heintiau a achosir gan yr amrywiolyn Omicron newydd, sy'n symud yn gyflym ac sy’n heintus iawn ar y ffordd atom, mae hyn yn golygu cymryd camau cynnar i geisio rheoli ei ledaeniad – a chyfyngu ar yr effaith ar fusnesau Cymru."
"Byddwn yn parhau i fonitro effaith lledaeniad Omicron ar fusnesau yng Nghymru, a byddwn yn ystyried a oes angen cyllid brys ychwanegol yn y flwyddyn newydd."