Covid-19: Cymru'n cofnodi nifer uchaf o achosion mewn diwrnod
Mae 4,662 yn rhagor o achosion o Covid-19 wedi eu cofnodi yng Nghymru yn ôl ystadegau dyddiol diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru - y nifer uchaf i gael eu cofnodi mewn un diwrnod.
Mae'r Deyrnas Unedig hefyd wedi cofnodi ei nifer uchaf o achosion dyddiol wrth i 106,122 achos cael eu cofrestru yn y 24 awr ddiwethaf.
Cafodd tair o farwolaethau yn rhagor eu cofnodi yng Nghymru ac mae'r gyfradd achosion ymhob 100,000 o'r boblogaeth dros saith diwrnod wedi cynyddu i 609.7
Bellach mae 566,995 achos positif wedi eu cofnodi ers dechrau'r pandemig, gyda 6,525 o farwolaethau yn gysylltiedig â'r haint wedi eu cofrestru yng Nghymru.
Mae'r gyfradd achosion ymhob 100,000 o'r boblogaeth ar ei huchaf yn ardaloedd awdurdodau lleol Ynys Môn (830.9), Caerdydd (748.2) a Bro Morgannwg (718.6).
Hyd yma mae 2,484,739 o bobl wedi derbyn o leiaf un brechiad rhag Covid-19, mae 2,292,930 wedi derbyn dau ddos, ac mae 1,406,629 o bobl wedi derbyn brechiad atgyfnerthu.