
Sut beth yw gweithio mewn cartref gofal yn ystod cyfnod mor ansicr?
Sut beth yw gweithio mewn cartref gofal yn ystod cyfnod mor ansicr?
Dros gyfnod y pandemig, mae sylw cyson wedi bod ar y cyfyngiadau mewn cartrefi gofal a'r prinder gweithwyr yn y sector.
Yn ystod y flwyddyn a hanner o gyfyngiadau, mae gwleidyddion wedi canmol yr aberthau roedd rhaid i weithwyr ar y rheng flaen gwneud yn ystod y pandemig.
Ond sut brofiad yw gweithio fel gofalwr yn ystod cyfnod mor ansicr, yn enwedig wrth i nifer o gyfyngiadau llacio a sylw'r byd yn troi i ffwrdd o gartrefi gofal?
Mae Newyddion S4C wedi trafod gyda dwy fenyw sydd yn gweithio yn y sector amdan eu profiadau dros y misoedd diwethaf.
'Amser pryderus'
Mae Mari Parker, 40, o'r Groeslon wedi bod yn rheolwraig gofrestredig yng Nghartref Plas Gwilym, Penygroes ers naw mlynedd.
"Dwi jyst wrth ym modd efo'n job. Dwi wrth ym modd treulio amser efo pobl," meddai Mari.

Serch angerdd Mari tuag at ei swydd, mae hi yn pryderu dros ddyfodol y sector, yn enwedig wrth recriwtio gofalwyr newydd.
Yn ôl rhybudd diweddar o Fforwm Gofal Cymru, mae cymaint â 10,000 o swyddi gofalwyr yn wag ar hyn o bryd.
"Mae'n amser pryderus iawn, a dio ddim gwahanol i reit ar gychwyn y pandemig, jyst bo neb yn sôn am dan y peth ddim mwy," dywedodd.
"Dos 'na neb efo diddordeb. Ma' 'na jobsys haws i neud am fwy o bres. 'Da chi'n sôn am rywle rhwng, wel i fyny o £8 i fyn i £10 yr awr."
"Weles i swydd yn ddiweddar mewn siop chips yn cael i adverstisio am £10.50 yr awr."
"So lefel cyfrifoldeb a'r sgiliau sydd angen i neud y swydd fel gofalydd, 'da ni jyst ddim yn mynd i gael y pobl 'da ni'n chwilio am danyn nhw yn talu pres mor wael."
'Dyma lle dwi isho bod'
Mae Alison Burford, 27, o Lannerchymedd yn rhannu awydd Mari am helpu a gofalu amdan bobl yng nghartrefi gofal.
"Dwi'n teimlo ma' dyma lle dwi isio bod, a dyma lle dwi'n mynd i drio gwella fy hun," meddai.
Mae Alison wedi gweithio fel gofalwyr cynorthwyol mewn cartref gofal yn Llanfairpwll ers saith mlynedd.

Dywedodd cafodd Covid-19 effaith sylweddol ar y cartref a'r gofalwyr oedd yn gweithio yno yn ystod misoedd cyntaf y pandemig.
"Gafo ni Covid yn y cartref. Odd o'n newid bywyd 'de, odd o'n ofnadwy."
"Ar un tro odd gennom ni ryw wyth staff, a dyna ni. Nesi weithio ryw 27/28 diwrnod heb frêc. Heb ddiwrnod off."
Mae Mari ac Alison wedi goresgyn amseroedd caled dros gyfnod y pandemig, wrth iddynt weithio'n galed i gadw eu trigolion yn ddiogel.
Er hyn, mae colli'r bobl sydd yn eu gofal yn rhan anochel o'r swydd.

Dywedodd Alison Mae hyn pob tro yn brofiad torcalonnus, ond mae staff yn gweithio'n galed i sicrhau mae preswylwyr yn gyfforddus yn eu munudau olaf.
"Be 'da ni'n neud yn y cartref ydi pan fydd 'na rywun yn dod i ddiwedd i bywyd, fydda ni yn gwneud ein gorau iddyn nhw, a pan ma' nhw yn mynd fyddwn ni'n mynd a bwnsh o lilis, a dillad gwyn, a Beibl efo ni atyn nhw, a wedyn fyddwn ni'n gadael nhw wedyn efo'r teuluoedd,
"Adeg yna dwi'n meddwl bo hi'n braf achos 'da ni'n gwybod wedyn bo bob dim reit i'r diwedd wedi ei gyflawni."
"Ma'n anodd, ma' yn anodd."
"Ond i fod yn onest efo chi, 'da chi'n gwybod wedyn efo y teuluoedd yn bod yn ddiolchgar a bo chi'n gwybod yn eich pen eich hun bo chi di neud y gorau mae o yn foddhad wedyn 'de."