Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ym Mhowys

22/12/2021
S4C

Bu farw dyn ar ôl i ddau gar fod mewn gwrthdrawiad ger Llanfair Caereinion, Powys.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod y ddamwain wedi digwydd ar yr A458, rhwng Llanfair Caereinion a Llanerfyl, tua 18.45yh ddydd Mawrth, 21 Rhagfyr.

Roedd y gwrthdrawiad rhwng Nissan Navara du a Volkswagen Golf arian. 

Bu farw'r dyn 36 oed oedd yn gyrru'r Volkswagen. 

Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod ac yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu swyddogion gyda'u hymchwiliad roi gwybod i Heddlu Dyfed-Powys gan ddyfynnu'r cyfeirnod: DP-20211221-285.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.