Y nofel eiconig Wythnos yng Nghymru Fydd yn dod i'r llwyfan
Fe fydd y nofel eiconig Wythnos yng Nghymru Fydd y dod i theatrau ledled Cymru y flwyddyn nesaf.
Mae'r addasiad llwyfan newydd yn gydweithrediad rhwng Frân Wen a Galeri Caernarfon ac yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.
Fe fydd yn teithio Cymru ym mis Hydref 2026.
Bydd y cynhyrchiad gan Mared Llywelyn yn addasiad o glasur Islwyn Ffowc Ellis sy'n dychmygu Cymru y dyfodol.
Fe fydd y fersiwn yma yn gosod y stori yn y presennol ac yn archwilio hunaniaeth, iaith, perthyn a dyfodol Cymru trwy lygaid cymeriad ifanc.
Fe gafodd y nofel ei chyhoeddi gyntaf ym 1957, a dyna oedd y llyfr 'sci-fi' cyntaf i oedolion yn yr iaith Gymraeg.
'Siapio'r dyfodol
'Dywedodd Mared Llywelyn: "Mewn byd lle mae eithafiaeth yn amlygu ei hun fesul diwrnod, mae Wythnos yng Nghymru Fydd yn rhoi’r chwyddwydr ar hynny. Mae’n her addasu’r nofel eiconig yma, ond dwi’n credu bod cwestiwn canolog y nofel mor berthnasol ag erioed - be fedrwn ni fel unigolion wneud i siapio’r dyfodol?"
Ychwanegodd Cyfarwyddwr a Chyfarwyddwr Artistig Frân Wen Gethin Evans: "Rydym wrth ein bodd yn dod â’r nofel eiconig hon i’r llwyfan. Mae wedi bod yn ganolog i lunio hunaniaeth lenyddol Cymru, ac mae ei hail-ddychmygu heddiw yn teimlo’n bwysig ac yn amserol.
"Wrth i Mared fynd i’r afael â stori sy’n archwilio’r byd mewn cyfnod o newid dwys, a’r ffyrdd y gall perthnasau oroesi a llywio trawsnewidiadau mawr, teimlwn gryfder y dehongliad newydd hwn."
Fe fydd y cynhyrchiad yn teithio i theatrau ledled Cymru, gyda rhagor o fanylion yn y flwyddyn newydd.
