Ffliw: Gorchuddion wyneb i'w gwisgo yn ysbytai'r gogledd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gofyn i bob claf, ymwelydd ac aelod o staff i wisgo masg wyneb mewn rhai ardaloedd o'u hysbytai yn y gogledd yn sgil cynnydd yn yr achosion o ffliw.
Dywed y bwrdd iechyd y dylai unrhyw un sy'n mynd i Adrannau Achosion Brys neu leoliadau derbyn, asesu a brysbennu (triage) wisgo masg wyneb oni bau eu bod wedi'u heithrio.
Fe fydd masgiau yn cael eu darparu wrth y drysau ffrynt yn yr ysbytai yn ôl y bwrdd iechyd.
Mae'r bwrdd iechyd hefyd yn annog y cyhoedd i helpu i gyfyngu lledaeniad firysau'r gaeaf drwy osgoi ymweld ag anwyliaid yn yr ysbyty os oes gan unrhyw un dagiad, annwydm dolur gwddf neu dymheredd uche.
Ychwanegodd y bwrdd iechyd eu bod yn annog unrhyw un sydd yn gymwys i gael brechlyn ffliw blynyddol y GIG, yn ogystal â golchi dwylo yn rheolaidd a gorchuddio'ch ceg os ydych chi'n tisian neu'n tagu.
Dywedodd Angela Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth: "Rydym yn monitro achosion o’r ffliw a heintiau gaeaf eraill bob dydd, ac rydym bellach yn cyflwyno masgiau wyneb yn yr ardaloedd hynny o’n hysbytai lle mae’r risg fwyaf ar hyn o bryd.
"Rydym yn barod i wneud gwisgo masgiau yn gam gorfodol ym mhob rhan o’n hysbytai os byddwn yn penderfynu bod hyn yn angenrheidiol dros y dyddiau nesaf."
Daw hyn wedi i Fyrddau Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Aneurin Bevan a Chwm Taf Morgannwg ofyn ddydd Iau i ymwelwyr a staff mewn ardaloedd clinigol ac ardaloedd sy'n wynebu cleifion i wisgo mygydau ar eu hwynebau mewn ymgais i atal firysau rhag ymledu.
Mae nifer yr achosion o firysau mewn ysbytai a'r gymuned ehangach yn cynyddu ar gyfradd gyson yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
