
Gwahardd torfeydd o ddigwyddiadau chwaraeon yn 'siom enfawr'
Gwahardd torfeydd o ddigwyddiadau chwaraeon yn 'siom enfawr'
Mae yna ddryswch a dicter ymysg y byd chwaraeon wedi i Lywodraeth Cymru wahardd torfeydd mewn chwaraeon dan do neu yn yr awyr agored.
Cyhoeddodd y llywodraeth eu bod yn cymryd y camau yma mewn ymgais i atal lledaeniad Covid-19, gyda'r mesurau newydd yn dod i rym o 26 Rhagfyr.
Daw'r cyhoeddiad yn dilyn cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o'r amrywiolyn Omicron yng Nghymru.
Cafodd 204 achos newydd o'r amrywiolyn eu cofnodi yng Nghymru ddydd Mawrth, gan ddod â chyfanswm yr achosion i 640.
Mae cyfradd heintio cyffredinol Covid-19 hefyd wedi cynyddu yng Nghymru gydag 575.0 achos ym mhob 100,000 o bobl, wrth i 2,375 o achosion newydd gael eu cofnodi ddydd Mawrth.

Mae gêm bêl-droed rhwng Dinas Caerdydd a Coventry City a'r gêm rygbi ddarbi rhwng y Gweilch a'r Dreigiau - oedd fod i gael ei chwarae ar ddydd San Steffan - eisoes wedi'u gohirio oherwydd achosion o'r feirws ymysg y timau.
Heddiw roedd ymateb chwyrn i’r cyhoeddiad yn enwedig gan nad yw Llywodraeth San Steffan wedi penderfynu dilyn yr un drefn.
Yn ôl y sylwebydd pêl-droed, Bryn Law, bydd y cyfyngiadau ar dorfeydd mewn gemau chwaraeon yn achosi "dryswch".
Dywedodd wrth Newyddion S4C: ‘’Fydd 'na dryswch mawr dwi'n meddwl. Hefyd fydda i'n gweithio ar y gêm yn Lerpwl. Lerpwl yn erbyn Leeds ar diwrnod bocsio efo torf dros pum deg mil, ond pedwar deg milltir i ffwrdd yn Wrecsam fydd neb yn gwylio'r gêm yn y Cae Ras.
'Siom enfawr'
‘’Mae 'na lot o bobl di cael y tri jabs rŵan ond 'da ni'n mynd yn ôl i'r sefyllfa blwyddyn diwethaf heb bobl yn y stadiwm a dwi wedi cael y jabs hefyd i symud ymlaen, nid i symud yn ôl.”
Dywedodd cadeirydd CPD Porthmadog, Phil Jones, ei bod hi’n ‘’siom enfawr’’ i gefnogwyr oedd wedi edrych ymlaen at y gêm darbi rhwng ei glwb â chlwb Blaenau Ffestiniog.
Ychwanegodd cadeirydd clwb y Blaenau, Dafydd Hughes, ei fod yn teimlo fod Llywodraeth Cymru ‘’wedi rhoi y drol o flaen y ceffyl".
Yn flaenorol mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai iechyd y cyhoedd yw eu blaenoriaeth.
Mae disgwyl i'r llywodraeth roi diweddariad ar gyfyngiadau Covid-19 mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Mercher.