Covid-19: Galw'r Senedd yn ôl mewn ymateb i 'fater o bwys cyhoeddus brys'
Fe fydd aelodau Senedd Cymru yn cael eu galw'n ôl o'u gwyliau ar gyfer datganiad gan un o weinidogion y Llywodraeth ddydd Mercher, yn dilyn cyhoeddiad gan y Llywydd.
Dywedodd Elin Jones y byddai'r aelodau'n cael eu galw'n ôl er mwyn i'r Senedd "ystyried mater o bwys cyhoeddus brys".
Bydd aelodau'n ymgynnull ar gyfer cyfarfod dros y we er mwyn clywed datganiad gweinidogol am 13:30 ddydd Mercher, meddai.
Roedd cais wedi ei wneud gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig i alw aelodau'r Senedd yn ôl yn gynharach ddydd Mawrth, a hynny er mwyn craffu ar gyfyngiadau coronafeirws Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Andrew RT Davies mewn llythyr at Elin Jones fod angen i'r aelodau bleidleisio ar unrhyw benderfyniadau sydd yn cael eu gwneud am gyfyngiadau pellach gan weinidogion y llywodraeth.
Mae'r aelodau wedi gorffen eu gwaith Seneddol dros gyfnod y Nadolig a'r disgwyl oedd y byddant yn ail-gydio yn eu dyletswyddau ar 10 Ionawr.
Yn y cyfamser mae disgwyl cyhoeddiad am ragor o fesurau posib mewn ymateb i ymlediad yr haint pan fydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cynnal cynhadledd i'r wasg am 12:15 brynhawn dydd Mercher.
Mae Prif Weinidog y DU, Boris Johnson wedi cyhoeddi na fydd rhagor o gyfyngiadau coronafeirws yn dod i rym cyn y Nadolig yn Lloegr. Ond fe ychwanegodd nad oedd modd "diystyru unrhyw fesurau pellach ar ôl y Nadolig".
Ychwanegodd Mr Johnson fod yr amrywiolyn Omicron yn ymledu ar gyflymder na welwyd erioed o'r blaen ac y bydd ei lywodraeth yn parhau i gadw llygad barcud ar y data. Dywedodd hefyd na fyddai gweinidogion yn oedi cyn gweithredu ar ôl y Nadolig os bydd angen.