Y darlledwr Huw Edwards yn dweud bod angen gwneud ‘safiad’ dros dai haf

Y darlledwr Huw Edwards yn dweud bod angen gwneud ‘safiad’ dros dai haf

NS4C 26/12/2021

Mae’r darlledwr a’r newyddiadurwr Huw Edwards yn dweud bod angen i bobl Cymru wneud “safiad” ynglŷn â phroblem tai haf.

Wrth siarad ar raglen deledu arbennig, ‘Huw Edwards yn 60’ mae’n ail ymweld â llefydd sydd yn agos at ei galon gan gynnwys Aberarth, y pentref lle cafodd ei dad, y diweddar Hywel Teifi Edwards ei fagu. Roedd ei dad meddai yn “gandryll” gyda’r newidiadau a ddigwyddodd i’r pentref yn sgil dyfodiad tai haf.

“Ei air mawr e oedd diberfeddu, diberfeddu’r pentref o fywyd naturiol yr oes a fu. Odd e’n gweld e fel ymosodiad ar yr iaith Gymraeg ac ar y diwylliant Cymraeg.”

Mae’n dweud ei fod ef yn teimlo llai o gysylltiad gyda’r pentref erbyn hyn a bod rhywbeth yn cael ei golli a dim ffordd o’i gael yn ôl.

“'Neges i at Gymry fydden ni yn dweud yw, wel beth ych chi mynd i wneud ynglŷn â’r peth? Nid job i rywun arall yw e. Job i ni yw e. Odd dad bob amser yn dweud bod e lan i bobl Cymru i ysgwyddo baich eu cyfrfoldeb … Mae’n rhaid i chi wneud safiad ambell waith ar beth sydd yn bwysig i chi.”

Fel Cymro sydd wedi byw am flynyddoedd yn Llundain mae’n dweud bod y ddeuoliaeth honno yn anodd.

Image
Huw Edwards
Symudodd Huw Edwards i Lundain fel gohebydd ifanc i'r BBC. 

“Mae bod yn Gymro yn Llundain yn bleser ac yn fwrn. Odd y wraig wedi gweud wrtha i unwaith, ti mewn sefyllfa amhosib.

Mae pobl yng Nghymru yn meddwl bo' ti wedi cefnu arnyn nhw ac mae pobl yn Lloegr yn meddwl bo' ti ddim yn perthyn ‘na o gwbl, bod ti fel ryw fath o outsider. A hwyrach bod hi wedi taro ar rywbeth eitha’ call fanna achos dydw i byth wedi teimlo mod i’n perthyn,” meddai.

Yn y rhaglen fydd yn cael ei darlledu ar S4C dros yr ŵyl mae’n dweud “mewn byd delfrydol” y byddai ei blant yn rhugl yn y Gymraeg ond nid dyma yw’r realiti. Er hynny mae’r pump yn gyfarwydd â’i gefndir ef a’i dad ac mae eu Mam-gu wastad wedi siarad yr iaith gyda nhw meddai.

“Oes ‘na ffordd i drosglwyddo ymwybyddiaeth o dreftadaeth a Chymreictod ac yn y blaen, oes.”

Image
Huw Edwards gyda'i dad
Mae gweithio fel un o brif gyflwynwyr y BBC yn "fuddugoliaeth" yn ôl y diweddar Hywel Teifi Edwards, sef tad Huw.

Doedd Huw Edwards a’i dad, Hywel Teifi Edwards ddim bob amser yn cyd dynnu meddai ei chwaer Meinir, sy’n cael ei chyfweld ar y rhaglen. Mae’n cofio'r ddau yn “darlithio at ei gilydd” amseroedd cinio dydd Sul.

Mae’r newyddiadurwr yn dweud ei fod wedi magu perthynas agosach at ei fam am fod ei dad i ffwrdd llawer pan oedd o’n blentyn.

Meddai Huw Edwards: “Oedd, odd e’n gallu bod yn gomic iawn ac oedd odd e’n gallu chwerthin, ac oedd odd e’n gallu mwynhau. Odd e’n gallu bod yn greulon o siarp ambell waith, ambell waith. Odd tafod fel bwyell ‘da fe ambell waith. Ac os och chi yn digwydd bod ar y receiving end odd e ddim yn lot o sbort.”

Ond pan gafodd ei dad wybod ei fod yn marw fe glosiodd y ddau. “Os chi’n meddwl bod 'na ffordd i chi glosio at eich plant, mae modd gwneud e. Ond dyle chi ddim gadael e rhy hir, dyna’r wers wy’n credu.”

Image
Huw Edwards
Mae Huw yn siarad am ei arferiad o focsio yn y rhaglen sy'n nodi ei ben-blwydd.

Erbyn hyn mae’r darlledwr i weld yn cyflwyno rhaglenni arbennig ar y BBC fel etholiadau gwleidyddol neu ddigwyddiadau mawr ym myd y teulu brenhinol. Mae’n dweud ei fod yn ymwybodol bod rhai Cymry Cymraeg yn feirniadol o’i ddewis i fynd i weithio i’r BBC yn Llundain. Ond dydy o ddim yn difaru.

“Odd dad wastad yn gweud hyn a mam yn gweud e hefyd. Mae’r ffaith bo ti yn Gymro Cymraeg a bo ti yn gwneud swydd bydde yna filiyne o Saeson isie neud a bod nhw yn dibynnu arno ti i wneud e, wel fel fydde dad yn gweud, ‘Mae honno yn fuddugoliaeth’ ac i fi mae hwnna yn ddigon da.”

Dyddiau yma mae Huw Edwards i’w weld yn y gampfa yn bocsio er mwyn cadw’n heini. Mae’n gweld cysylltiad agos rhwng cadw’r corff yn iach a’r meddwl ar ôl iddo gael pyliau o iselder yn y gorffennol.

'Wedi cael bach o ofn'

“Gweud y gwir, ges i bach o ofn achos o’n i ddim wedi profi hynny o’r blaen,” meddai wrth sôn am yr iselder y cafodd tua 2002. 

“Ac wrth gwrs y broblem yw chi gorfod cynnal delwedd gyhoeddus, hynny yw chi’n wyneb cyfarwydd. Wrth o’n i yn mynd 'mlaen ar yr awyr ychydig funudau cyn chwech o’r gloch o’n i yn llythrennol yn gweud wrth fy hunan, ‘Dere mlaen fyddi di’n iawn nawr. Rhaid i ti jest neud e.’

Yn 2023 bydd Huw Edwards wedi bod yn darllen y newyddion am 22:00 o’r gloch ers ugain mlynedd. Mae’n dweud y byddai yn hoffi cyrraedd y garreg filltir honno ac nad ydy o yn barod eto i roi’r gorau i’w waith. Ei obaith yw parhau i ddarlledu mewn rhyw ffordd gan ei fod yn mwynhau bod yn brysur.

“Fyddai ddim yn cael hoe. Fyddai yn edrych am waith arall achos wy’n credu bod prysurdeb yn un o gyfrinachau bywyd.”

'Huw Edwards yn 60', Nos Fercher Rhagfyr 29, 21:00 ar S4C