Cip olwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Mae'n fore Mawrth, 21 Rhagfyr, a dyma olwg ar rai o brif straeon y bore o Gymru a thu hwnt.
Covid-19: Dim torfeydd mewn gemau chwaraeon o ddydd Sul ymlaen
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd digwyddiadau chwaraeon yn cael eu cynnal heb dorfeydd am y tro, mewn ymgais i geisio rheoli lledaeniad Covid-19.
Bydd y mesurau newydd ar gyfer chwaraeon dan do ac awyr agored yn dod i rym o 26 Rhagfyr ymlaen.
Daw'r cyhoeddiad yn dilyn cynnydd sylweddol yn y nifer yr achosion o'r amrywiolyn Omicron yng Nghymru.
‘Angen bod yn llai beirniadol’ o safon Cymraeg, medd Carwyn Jones
Mae angen bod yn “llai beirniadol” o safon Cymraeg pobl, yn ôl cyn-Brif Weinidog Cymru.
Dywedodd Carwyn Jones y dylid “edrych i hybu bobl yn fwy” a’u hannog i ddefnyddio’u Cymraeg.
Yn ôl Mr Jones, oedd yn siarad ar raglen Dros Frecwast BBC ar Radio Cymru, mae rhai hefyd yn “tueddu bod yn feirniadol iawn o’u hunain”.
Dyn wedi'i gyhuddo o lofruddio menyw ifanc yn Sir Benfro
Mae dyn 31 oed wedi'i gyhuddo o lofruddio menyw ifanc yn Sir Benfro.
Cafodd Lewis Haines, o Flemish Court, Llandyfái, ei arestio ar ôl i gorff Lily Sullivan, 18 oed, gael ei ddarganfod yn ardal Llyn y Felin ym Mhenfro ychydig wedi 04:00 fore dydd Gwener.
Fe fydd Mr Haines yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Hwlffordd i wynebu'r cyhuddiad yn ei erbyn ddydd Mawrth.
Staff gofal cymdeithasol Cymru i dderbyn y cyflog byw gwirioneddol - Golwg360
Bydd staff gofal cymdeithasol yn derbyn y cyflog byw gwirioneddol yng Nghymru o'r flwyddyn nesaf.
Dywed Llywodraeth Cymru bod hyn o ganlyniad i becyn ariannol gwerth £43 miliwn i gefnogi'r sector.
Yn y dyfodol bydd gweithwyr yn derbyn cyflog o £9.90 yr awr.
Canslo dathliadau Nos Galan yn Sgwâr Trafalgar yn sgil Omicron - Evening Standard
Ni fydd dathliadau Nos Galan yn cael eu cynnal yn Sgwâr Trafalgar yn Llundain am yr ail flwyddyn yn olynol.
Dywed Maer Llundain ei fod yn deall y bydd hyn yn benderfyniad "siomedig" i nifer o bobl ond bod angen cymryd camau i sicrhau nad yw gwasanaethau iechyd yn cael eu "llethu dros y gaeaf".
Roedd disgwyl y byddai modd cynnal digwyddiad gyda 6,500 o weithwyr allweddol ac aelodau'r cyhoedd er mwyn croesawu 2022.
Dilynwch y diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C drwy gydol y dydd.