Newyddion S4C

Covid-19: Dim torfeydd mewn gemau chwaraeon o ddydd Sul ymlaen

21/12/2021
Yr Oval Caernarfon

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd digwyddiadau chwaraeon yn cael eu cynnal heb dorfeydd am y tro, mewn ymgais i geisio rheoli lledaeniad Covid-19. 

Bydd y mesurau newydd ar gyfer chwaraeon dan do ac awyr agored yn dod i rym o 26 Rhagfyr ymlaen. 

Daw'r cyhoeddiad yn dilyn cynnydd sylweddol yn y nifer yr achosion o'r amrywiolyn Omicron yng Nghymru. 

Cafodd 163 achos newydd o'r amrywiolyn eu cofnodi yng Nghymru ddydd Llun, gan ddod â chyfanswm yr achosion i 435. 

Mae cyfradd heintio cyffredinol Covid-19 hefyd wedi cynyddu yng Nghymru gydag 548.4 achos ym mhob 100,000 o bobl, wrth i 6,796 o achosion newydd gael eu cofnodi ddydd Llun. 

Mae gêm bêl-droed rhwng Dinas Caerdydd a Coventry City a'r gêm rygbi ddarbi rhwng y Gweilch a'r Dreigiau - oedd fod i gael ei chwarae ar ddydd San Steffan - eisoes wedi'u gohirio oherwydd achosion o'r feirws ymysg y timau. 

Image
Cefnogwyr chwaraeon
Dywed y llywodraeth ei bod yn disgwyl croesawu cefnogwyr yn ôl cyn gynted â phosib.  
Llun: Asiantaeth Huw Evans

'Siomedig iawn'

Mae cynnal gemau chwaraeon tu ôl i ddrysau caeedig eto yn "siomedig iawn", yn ôl un o ranbarthau Cymru.

Dywed y Scarlets bod y cyhoeddiad yn "ergyd ariannol sylweddol arall" i'r clwb ond y byddan nhw bob amser yn blaenoriaethu iechyd eu cymuned.

Dywedodd Phil Morgan, Prif Swyddog Gweithredol y Scarlets: "Mae hwn yn siomedig iawn i ni gyd - chwaraewyr, staff, cefnogwyr a phartneriaid masnachol, sydd wedi dangos teyrngarwch anhygoel i ni dros y 18 mis diwethaf. 

"Mae gemau darbi y gwyliau, yn enwedig ein gêm gartref yn erbyn y Gweilch, bob amser yn achlysuron gwych ac roeddwn yn disgwyl dau o dorfeydd mwyaf y tymor ar gyfer gemau'r Gweilch a'r Dreigiau. 

"Tra y bydd y newyddion hwn yn ergyd ariannol sylweddol arall i'r busnes, byddwn bob amser yn blaenoriaethu iechyd a diogelwch cymuned y Scarlets.

"Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a gobeithio, pan mae'n ddiogel, y byddwn yn gallu croesawu cefnogwyr yn ôl i Barc y Scarlets yn fuan."

Yn ôl Rygbi Caerdydd, fe gyflwynon nhw gais i'r Bencampwriaeth Rygbi Unedig i ohirio'u gêm ddarbi yn erbyn y Scarlets tan i gefnogwyr allu dychwelyd i'r stadiwm, ond fod y cais hwnnw wedi ei wrthod.

Mae Cadeirydd y Dreigiau, David Buttress, wedi galw'r newyddion yn "ofnadwy" ac yn ddinistriol i rygbi proffesiynol a chwaraeon.

Ni fydd cefnogwyr yn y Cae Ras ar gyfer gêm gartref Wrecsam yn erbyn Solihull Moors ar Ŵyl San Steffan.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran CPD Wrecsam fod y penderfyniad yn un "siomedig".

"Rydym yn siomedig iawn na fydd cefnogwyr yn gallu mynychu ein gêm Gŵyl San Steffan yn y Cae Ras, ond rydym yn deall pam bod y penderfyniad wedi ei wneud."

'Diogelu iechyd pobl'

Bydd Cronfa Chwaraeon gwerth £3m ar gael i geisio lleddfu'r effaith economaidd ar y clybiau sydd yn cael eu heffeithio gan y mesurau newydd. 

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughn Gething: "Mae digwyddiadau chwaraeon dros gyfnod y Nadolig yn un o uchafbwyntiau mawr y flwyddyn. Yn anffodus, mae'r amrywiolyn Omicron newydd yn ddatblygiad sylweddol yn y pandemig a gallai achosi nifer fawr o heintiau." 

“Mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu iechyd pobl a rheoli lledaeniad y feirws ofnadwy yma.

Image
Pel droeg
Yn ystod y cyfnod clo diwethaf bu rhaid i dimau chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig fel yn ystod y gêm gwpan yma yng Nghaernarfon

“Drwy gydol y pandemig rydym wedi dilyn cyngor gwyddonol ac iechyd y cyhoedd i gadw pobl yn ddiogel. Mae'r cyngor yn glir - mae angen i ni weithredu nawr fel ymateb i fygythiad omicron. 

“Bydd torfeydd yn dod yn ôl cyn gynted â phosib. Rydyn ni eisiau i bawb fod yma i fwynhau eu hoff chwaraeon.”

Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, eisoes wedi cyflwyno mesurau newydd yng Nghymru mewn ymateb i'r amrywiolyn, gan gyhoeddi y bydd clybiau nos yn cau o 27 Rhagfyr ymlaen.

Mewn ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies mai "nad dyma'r ffordd i wneud pethau".

Ychwanegodd bod "teuluoedd, gweithwyr, busnesau a sefydliadau yn haeddu cyfathrebu clir gan lywodraethau o bob math yn ystod cyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd.

"Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dal i gredu y dylai cyfyngiadau ond gael eu cyflwyno yn seiliedig ar y data cryfaf posib, ac fel yr opsiwn olaf er mwyn gwarchod y GIG."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.