Canslo dathliadau Nos Galan yn Sgwâr Trafalgar yn sgil Omicron

Ni fydd dathliadau Nos Galan yn cael eu cynnal yn Sgwâr Trafalgar yn Llundain am yr ail flwyddyn yn olynol.
Dywed Maer Llundain ei fod yn deall y bydd hyn yn benderfyniad "siomedig" i nifer o bobl ond bod angen cymryd camau i sicrhau nad yw gwasanaethau iechyd yn cael eu "llethu dros y gaeaf".
Roedd disgwyl y byddai modd cynnal digwyddiad gyda 6,500 o weithwyr allweddol ac aelodau'r cyhoedd er mwyn croesawu 2022.
Y bwriad nawr yw darlledu digwyddiad byw a fydd yn dathlu'r ddinas, ond roedd Mr Khan yn annog pobl i'w wylio ar y teledu, yn ôl The Evening Standard.
Darllenwch fwy ar y stori yma.