Dyn wedi'i gyhuddo o lofruddio menyw ifanc yn Sir Benfro
20/12/2021
Mae dyn 31 oed wedi'i gyhuddo o lofruddio menyw ifanc yn Sir Benfro.
Cafodd Lewis Haines, o Flemish Court, Llandyfái, ei arestio ar ôl i gorff Lily Sullivan, 18 oed, gael ei ddarganfod yn ardal Llyn y Felin ym Mhenfro ychydig wedi 04:00 fore dydd Gwener.
Fe fydd Mr Haines yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Hwlffordd i wynebu'r cyhuddiad yn ei erbyn ddydd Mawrth.
Mewn teyrnged dros y penwythnos, dywedodd teulu Lily Sullivan fod "Lily yn ferch garedig a gofalgar ac fe fydd yn cael ei cholli'n arw gan bawb."