Môn: Peilotiaid RAF wedi ‘osgoi ardaloedd ag adeiladau’ cyn i awyren blymio i'r ddaear

Llun: Danni Jones
Awyren RAF Y Fali Ynys Mon

Roedd peilotiaid awyren RAF a blymiodd i'r ddaear ar Ynys Môn wedi ei llywio i osgoi taro pobl ac adeiladau cyn cael eu taflu allan, yn ôl un o benaethiaid yr RAF.

Dywedodd y Capten Grŵp Gez Currie, pennaeth yr orsaf: “Byddai’r awyren wedi cael ei chyfeirio at yr hyn yr oedd y peilot yn credu oedd yn gae agored, er mwyn osgoi ardaloedd adeiledig ac unrhyw un ar y ddaear.”

Ychwanegodd: "Y peth olaf y bydden ni ei eisiau yn RAF Valley, neu yn wir unrhyw orsaf RAF, yw i bersonél neu bobl ar y ddaear gael eu hanafu o ganlyniad i'n gweithgareddau."

Mae disgwyl i'r ddau beilot wella'n llwyr o’u hanafiadau ar ôl y digwyddiad ddydd Mercher. 

Bu’n rhaid i'r ddau ddianc o'r awyren Hawk T2 drwy ddefnyddio parasiwtiau, cyn iddi ddisgyn i'r ddaear ger tai cyfagos ym Mhencarnisiog wrth safle RAF Y Fali.

Mae clipiau fideo yn dangos y foment pan ffrwydrodd yr awyren wrth daro’r tir.

Mae’r Awyrlu Brenhinol yn dweud eu bod wedi rhoi saib dros dro ar hediadau awyrennau Hawk fel “cam rhagofalus” wrth i ymchwiliadau i’r digwyddiad barhau.

Ddydd Iau, dywedodd y RAF bod y peilotiaid yn derbyn triniaeth am fân anafiadau.

“Mae’r ddau beilot yn gwneud yn dda, maen nhw mewn hwyliau da ac mae disgwyl iddyn nhw wneud gwellhad llwyr.

“Mae ymchwiliad ffurfiol i amgylchiadau’r digwyddiad wedi dechrau ac fel cam rhagofalus, mae’r RAF wedi rhoi saib dros dro ar weithrediadau hedfan Hawk T1 a Hawk T2.”

Roedd heddlu a gwasanaeth tân y gogledd a'r Ambiwlans Awyr yn rhan o’r ymateb i’r digwyddiad brynhawn ddydd Mercher.

Er i’r awyren ffrwydro ar ôl taro’r tir, oedd ger maes carafanau, ni chafodd unrhyw anafiadau eu hadrodd na difrod i unrhyw adeiladau.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Wes Streeting ddydd Iau eu bod yn "ymchwilio i sut a pham y digwyddodd y digwyddiad".

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, Prif Weinidog Cymru, ei fod yn “falch iawn o glywed nad yw criw'r awyren jet Hawk yn RAF Fali wedi'u hanafu'n ddifrifol.”

“Diolch i'r holl wasanaethau brys am yr ymateb cyflym, ac rwy'n dymuno gwellhad cyflym i'r criw.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.