Cadarnhau mai Caerdydd fydd yn cynnal gornest focsio Joshua a Fury

Anthony Joshua / Tyson Fury

Mae dinas Caerdydd wedi cael ei chadarnhau fel y lleoliad ar gyfer yr ornest focsio rhwng Anthony Joshua a Tyson Fury ym mis Rhagfyr. 

Fe fydd yr ornest yn cael ei chynnal yn Stadiwm Principality ar 11 Rhagfyr. 

Mae Joshua a Fury wedi bod yn hawlio'r sylw ym mhwysau trwm bocsio Prydeinig ers degawd a mwy, gyda'r ddau wedi bod yn Bencampwyr Byd. 

Er hynny, nid yw'r ddau wedi wynebu ei gilydd yn y sgwâr bocsio hyd yma. 

Fe fydd yr ornest yn cael ei chynnal yn oriau mân fore Sadwrn 11 Rhagfyr, gyda Netflix yn darlledu'r holl ddigwyddiad. 

Dywedodd Gavin Marshall, Prif Swyddog Gweithredoedd Undeb Rygbi Cymru a Stadiwm Principality: "Mae gennym hanes a thraddodiad cyfoethog o focsio yng Nghaerdydd, nid yn unig yn Stadiwm Principality ond ledled y ddinas, ers dros canrif a mwy.

“Dyma fydd y trydydd tro i Joshua ymladd yma yn Stadiwm Principality ac mae’r ffaith mai Tyson Fury fydd ei wrthwynebydd y tro yma’n ein gwneud yn arbennig o falch ein bod yn cael y cyfle i gynnal digwyddiad enfawr arall yma yng Nghymru."

Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Chris Weaver: "Mae hwn yn newyddion gwych i Gaerdydd ac mae’n adlewyrchu’r ffaith bod gan ein dinas enw arbennig o dda am gynnal prif ddigwyddiadau chwaraeon ac adloniant.

“Gan bod gymaint o edrych ymlaen wedi bod at y frwydr yma, fe all yr ornest yma rhwng Tyson Fury ac Anthony Joshua yn Stadiwm Principality ddod â budd economaidd sylweddol i’r ddinas wrth i ymwelwyr o Brydain a thu hwnt ymweld â Chaerdydd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.