Staff gofal cymdeithasol Cymru i dderbyn y cyflog byw gwirioneddol
21/12/2021
Bydd staff gofal cymdeithasol yn derbyn y cyflog byw gwirioneddol yng Nghymru o'r flwyddyn nesaf.
Dywed Llywodraeth Cymru bod hyn o ganlyniad i becyn ariannol gwerth £43 miliwn i gefnogi'r sector.
Yn y dyfodol bydd gweithwyr yn derbyn cyflog o £9.90 yr awr.
Cafodd ymrwymiadau ariannol y llywodraeth eu cyhoeddi yn y Gyllideb ddydd Mawrth.
Gall gweithwyr cartrefi gofal, gofal cartref a gwasanaethau oedolion a phlant ddisgwyl gweld cynnydd yn eu cyflog o fis Ebrill 2022, yn ôl Golwg 360.
Darllenwch fwy yma.