Angen bod yn 'llai beirniadol’ o safon y Gymraeg, medd Carwyn Jones
Mae angen bod yn “llai beirniadol” o safon Cymraeg pobl, yn ôl cyn-Brif Weinidog Cymru.
Dywedodd Carwyn Jones y dylid “edrych i hybu bobl yn fwy” a’u hannog i ddefnyddio’u Cymraeg.
Yn ôl Mr Jones, oedd yn siarad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru, mae rhai hefyd yn “tueddu bod yn feirniadol iawn o’u hunain”.
Dywedodd: “Yn enwedig mewn rhai rhannau o Gymru, yn y cyfrifiad ma’ nhw’n dodi’u hunain lawr fel bobl sydd yn deall Cymraeg a nid bo nhw’n siarad Cymraeg a o achos ‘ny ni’n colli siaradwyr Cymraeg er bo nhw’n dal i fod ‘na ond dyw nhw ddim yn ystyried eu hunain fel siaradwyr Cymraeg.”
'Defnyddio'r Gymraeg'
Roedd Carwyn Jones yn Brif Weinidog ac yn Arweinydd ar Lafur Cymru rhwng 2009 a 2018.
Camodd o’r neilltu fel AS Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Mai ar adeg Etholiad y Senedd.
Roedd wedi bod yn Aelod o’r Senedd – a’r Cynulliad cyn hynny – ers 1999.
Ond dywedodd Mr Jones nad oedd erioed wedi bod yn barod i ddefnyddio’i Gymraeg mewn cyd-destun ffurfiol.
“Bydden i byth wedi ‘neud hwn 20 mlynedd yn ôl. Bydden i byth wedi sefyll ar ‘y nhraed a siarad yn Gymraeg yn gyhoeddus yn enwedig heb nodiadau. Erbyn hyn, dwi’n ddigon cyfforddus i wneud hynny,” meddai.
“Un o’r pethau o’n i moyn sicrhau o’dd bod pobol yn clywed llais ac acen dwyrain Sir Gâr mewn ffordd a Gorllewin Morgannwg a gweld bod e’n bosib i ddefnyddio’r Gymraeg a clywed llais fel ‘yn llais i, ‘yn acen i.
“O’dd e’n daith personol i fi hefyd i sicrhau bod yr hyder ‘da fi i ddefnyddio’r Gymraeg tu fas i’r cyd-destun cymdeithasol ‘na.”
Mae Carwyn Jones yn galw ar bobl i ddefnyddio mwy o Gymraeg.
“Dwi ddim yn erfyn i bawb i ddod i safon lle maen nhw’n gallu ‘sgrifennu cynghanedd neu gallu ennill rhywbeth yn yr Eisteddfod,” meddai.
“Beth sy’n bwysig yw bod pobl yn defnyddio’r Gymraeg.”
Llun: XIIIfromTOKYO