
'Chi ffaelu galaru’n iawn - bydd lot yn cael yr un profiad dros yr wythnosau nesaf’

Wrth i’r pwysau ar y gwasanaeth iechyd gynyddu, mae menyw o Gastell Newydd Emlyn a gollodd ddau riant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn pryderu am gleifion eraill y gaeaf hwn.
Yr adeg yma’r llynedd, roedd Teleri Evans yn poeni am iechyd ei mam. Roedd ail don Covid-19 wedi taro gorllewin Cymru, a’i mam yn colli profion gwaed ac apwyntiadau doctor o ganlyniad.
Cafodd y sefyllfa effaith sylweddol ar iechyd ei mam, a hithau’n byw gyda diabetes.
Erbyn cyfnod y Nadolig, gyda’i chyflwr yn gwaethygu, fe gafodd mam Teleri ei chludo i Ysbyty Glangwili.
Yno, fe ddaeth Teleri i weld â’i llygaid ei hun pa mor ddifrifol oedd y pwysau ar y gwasanaeth iechyd. Dywedodd wrth raglen Newyddion S4C:
“Roedd hi yn yr ysbyty dros y Nadolig, a dodd dim ffordd i ni gysylltu â hi. Dodd dim modd mynd i ymweld.

"Dodd y cyfathrebu gyda’r nyrsys ddim yn dda, yn arbennig wrth drial mynd trwy switchboard yr ysbyty. Roedd ganddi enw cyffredin oedd gan ambell i glaf arall oedd yno ar yr un pryd.
"Felly ro’ ni’n siarad â nyrsys am bobl eraill. Ro’ ni’n cael newyddion gwahanol bob dydd ynglŷn â’i sefyllfa.”
Yn ôl Teleri, roedd y sefyllfa anodd ganwaith yn waeth gan nad oedd modd ymweld neu gysylltu gyda'i mam.
Bu farw ei mam ychydig ddyddiau ar ôl ddydd Nadolig 2020.
“Mewn ffordd, gethon ni ddim dweud hwyl fawr. Dodd dim ffordd o gysylltu dros y ffôn. Roedd e’n anodd iawn cael gafael ar aelod o staff yn y wards achos bod llai o staff dros y Nadolig a dodd dim consultants achos eu bod nhw ar wyliau Nadolig.”
Mewn ymateb, dywedodd Cyfarwyddwr Nyrsio, Profiad ac Ansawdd Cleifion gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Mandy Rayani wrth Newyddion S4C:
"Hoffwn yn gyntaf gyfleu ein cydymdeimladau dwysaf i Ms Teleri Evans a'i theulu am eu colled. Tra nad oes modd i ni drafod gofal a phrofiadau cleifion unigol drwy'r cyfryngau, hoffwn ymddiheuro'n ddiffuant am sefyllfaoedd lle mae pobl yn teimlo bod y gofal sy'n cael ei roi yn is na'n safonau uchel.
“Mae pandemig Covid-19 yn parhau i gael effaith ofnadwy ar ein gallu i gynnig gofal yn yr un ffordd ag o'r blaen ac mae'n staff yn gweithio o dan bwysau enbyd, yn arbennig wrth i ni ymdrechu eto i sicrhau bod y cyhoedd yn derbyn eu brechlynnau ychwanegol."
'Problemau enfawr' yn y system
Wedi colli eu mam, roedd Teleri Evans a’i chwiorydd iau nawr yn wynebu’r realiti bod eu tad, oedd yn byw â chanser y prostad, mewn cyflwr difrifol.
Roedd ei iechyd yntau’n gwaethygu, a gofal canser yn ôl Teleri yn dioddef yn sgil y pandemig.
“Cafodd pob un o’i apwyntiadau eu canslo, a’u rhoi ar y ffôn. Dodd e ddim yn cael yr amser gyda consultants i drafod ei driniaeth.
“Gath ei driniaeth ei ohirio tan fod hynny’n ddiogel o dan y canllawiau ar y pryd. Felly gath e’i ohirio gan o leiaf chwe mis. Ac o fewn y chwe mis yna, wrth edrych nôl, odd y canser wedi lledu ac roedd e’n rhy hwyr erbyn bod e’n dechrau ar ei driniaeth ym mis Ionawr.”

Mae pennaeth elusen ganser Macmillan yng Nghymru, Richard Pugh, yn gyfarwydd iawn â straeon fel rhai Teleri Evans.
"Yn anffodus dyw canser ddim yn dod yn gyntaf ar hyn o bryd, a phethau gydag Omicron yn rhoi problemau enfawr yn y system," meddai.
"Roedd y system yn dod nôl i edrych ar ôl pobl fel oedd e cyn Covid, ond ry’ ni yn clywed bod ‘na bobl allan yna sydd ddim yn cael y cymorth mae nhw eisiau.
"Ni eisiau dod at gyfnod nawr pan ni yn edrych ar ôl cleifion canser a’u teuluoedd nhw hefyd. Peidiwch anghofio am ganser. Ond yn anffodus mae Covid yn gwneud hynny."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ni allwn wneud sylw ar achosion unigol ond rydym yn deall pa mor anodd fu'r pandemig i'r rhai sydd wedi colli anwyliaid. Rydym yn cydnabod bod hwn yn parhau i fod yn gyfnod anodd iawn i gleifion, eu teuluoedd a gwasanaethau'r GIG.
"Mae canser a thriniaethau brys eraill wedi'u darparu drwy gydol y pandemig ond mae darpariaeth arferol y GIG wedi cael eu heffeithio’n sylweddol.
"Mae byrddau iechyd wedi gorfod gweithredu cynlluniau i atal y feirws rhag lledaenu a chadw cleifion, eu teuluoedd a'u staff yn ddiogel ac mae hyn wedi ei gwneud hi'n anodd i deuluoedd weld eu hanwyliaid tra yn yr ysbyty."
'Chi ffaelu galaru'n iawn'
Gydag amrywiolyn Omicron yn arwain at ragor o gyfyngiadau’r gaeaf hwn, a phryder am gynnydd yn nifer achosion o fewn ein cymunedau, mae Teleri Evans nawr yn poeni am ddiogelwch cleifion eraill.
“Dwi yn poeni am bobl sydd â salwch cronig, neu sy’n byw gyda chanser. Na fyddan nhw’n cael y driniaeth angenrheidiol.
“Dwi’n gwybod bydd eu hapwyntiadau nhw fwy na thebyg yn cael eu gohirio er mwyn rhyddhau staff i helpu’r gwasanaeth gyda chleifion Covid. Neu’r staff sydd ddim ar gael gan eu bod nhw’n sâl. Mae nhw dan y don oherwydd pwysau’r 18 mis diwethaf.

“Dwi’n gwybod y bydd nifer o bobl sy’n dioddef o ganser, fwy na thebyg yn marw’n gynt achos bo nhw heb gael y driniaeth oedd ishe arnyn nhw”
Mae Teleri yn edrych nôl dros flwyddyn erchyll. Wedi colli ei rhieni, un o’r gwirioneddau anoddaf oedd methu bod yno ar eu cyfer, meddai.
“Chi ffaelu galaru’n iawn. Mae’n anodd, a dwi’n gwybod y bydd lot o bobl eraill yn cael y profiad ‘ma dros yr wythnosau nesa’.
“Pan bod aelod o’r teulu yn mynd mewn i’r ysbyty, mae fel mynd i garchar. Chi methu mynd i’w gweld nhw. Chi’n gallu mynd i’r drws gyda pharsel neu fag, a dyna ni.
“Chi’n lwcus gyda’r dechnoleg. Ro’ ni’n neud FaceTime, galwadau ffôn, negeseuon, ond dyw hwnna ddim yn agos at ddal llaw eich tad wrth ymyl ei wely.”