Newyddion S4C

“Os oes rhywun yn dweud eu bod nhw wedi cael eu cam-drin, credwch nhw”

07/04/2021

“Os oes rhywun yn dweud eu bod nhw wedi cael eu cam-drin, credwch nhw”

Bron i 20 mlynedd ers i’r cyn-athro drama a’r cyfarwyddwr teledu John Owen ladd ei hun wedi honiadau o gam-drin plant ddod i’r amlwg yn Ysgol Gyfun Rhydfelen ym Mhontypridd, mae un o’i ddioddefwyr yn adrodd ei hanes yn gyhoeddus ar gamera am y tro cyntaf.

Mewn rhaglen ddogfen arbennig ar S4C nos Fercher, John Owen: Cadw Cyfrinach, fe fydd yr actor â’r cerddor Gareth Potter yn rhannu y profiadau erchyll a ddioddefodd o achos camdriniaeth John Owen.

Mae Mr Potter yn rhannu ei brofiadau a’r effaith a gafodd blynyddoedd o gamdriniaeth ar ei fywyd ac ar ddisgyblion eraill yn Ysgol Rhydfelen:

“Fe wnaeth John Owen ddechrau groomio fi yn ifanc iawn wrth i fi ddechrau yn Ysgol Rhydfelen.  Do’n i ddim yn gwybod pa mor sinistr oedd y trap o’n i ynddo yn mynd i droi. Ro’n i’n joio perfformio, canu, adrodd a cystadlu - fi’n cofio meddwl reit – ‘I must get him to notice me’. Roedd e’n foi hynod o charismatic a roeddet ti eisiau iddo fe dy glodfori di.“ meddai.

Image
John Owen
Fe laddodd John Owen ei hun yn 2001 cyn sefyll ei brawf ar gyhuddiadau o ymosodiadau rhyw yn erbyn cyn ddisgyblion.

Bu John Owen yn sgriptio a chynhyrchu cyfres ddrama i bobl ifanc Pam Fi Duw i S4C rhwng 1997 a’i farwolaeth.

Yn sgil ei brofiadau, mae Mr Potter wedi tanlinellu’r angen sydd ar i bobl wrando ar leisiau dioddefwyr pan maent yn adrodd am honiadau o gam-drin: “Os oes rhywun yn dweud eu bod nhw wedi cael eu cam-drin, mae’n rhaid i chi gredu nhw.”

Fe laddodd John Owen ei hun yn 2001 cyn sefyll ei brawf ar gyhuddiadau o ymosodiadau rhyw yn erbyn cyn ddisgyblion. Fe wnaeth hynny esgor ar ymchwiliad Clywch yn 2004, sef ymchwiliad gan Peter Clarke, Comisiynydd Plant Cymru ar y pryd.

Fe wnaeth ei adroddiad nodi nad oedd modd i unrhyw un a glywodd y dystiolaeth yn yr ymchwiliad amau fod John Owen yn euog o weithredoedd o anweddustra rhywiol difrifol yn erbyn rhai disgyblion yn Ysgol Gyfun Rhydfelen. Roedd yn nodi hefyd fod y dystiolaeth wedi dangos i Mr Owen, yn ôl pwysau tebygolrwydd, gam-drin disgyblion yn ei ofal dros nifer o flynyddoedd.

Bydd John Owen: Cadw Cyfrinach yn cael ei ddarlledu ar S4C nos Fercher am 21.00.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.