Teyrnged i 'ferch garedig’ gafodd ei chanfod wedi marw ym Mhenfro
Mae teulu merch gafodd ei chanfod wedi marw yn ardal Llyn y Felin fore dydd Gwener wedi rhoi teyrnged iddi, gan ei disgrifio fel "merch garedig”.
Dywed y teulu bod Lily Sullivan, 18 oed yn “ferch garedig a gofalgar ac y bydd pawb yn gweld ei heisiau'n fawr."
Ychwanegodd y teulu eu bod nhw’n "ddiolchgar iawn i bob un o ffrindiau Lily Sullivan am eu cefnogaeth."
Mae dyn 31 oed gafodd ei arestio mewn cysylltiad â'r farwolaeth yn parhau yn y ddalfa ar ôl i 36 awr ychwanegol gael eu caniatáu gan ynadon i'r heddlu ei holi.
Yn dilyn apêl am dystion, mae'r heddlu wedi adnabod a siarad â thri pherson cafodd ei gweld yn cerdded ci ger barbwr Zero’s am oddeutu 2.40 fore Gwener.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Paul Jones: “Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cysylltu â’r heddlu gyda gwybodaeth, sy’n ein helpu i adeiladu llun o’r hyn a ddigwyddodd i Lily.
“Hoffwn hefyd ddiolch i'r gymuned am eu cefnogaeth wrth i'r ymchwiliad barhau."
Mae Heddlu Dyfed Powys yn parhau i apelio am wybodaeth.
Fe all unrhyw un sydd gan wybodaeth gysylltu gyda'r heddlu gan ddefnyddio'r cyfeirnod DP-20211217-041.