Heddlu'n apelio am dystion i farwolaeth menyw ym Mhenfro
Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am dystion fel rhan o ymchwiliad i farwolaeth Lily Sullivan, 18 oed, ym Mhenfro.
Cafodd ei chorff ei ddarganfod yn ardal Llyn y Felin ychydig wedi 04:00 fore Gwener.
Mae dyn 31 oed gafodd ei arestio mewn cysylltiad â'r farwolaeth yn parhau yn y ddalfa ar ôl i 36 awr ychwanegol gael eu caniatáu gan ynadon i'r heddlu ei holi.
Nid yw'r heddlu yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n awyddus i siarad gyda thri o bobl a welwyd yn cerdded ci o faint canolig oedd yn gwisgo côt ger barbwr Zero’s am oddeutu 2.40 fore Gwener.
Dywedodd y Ditectif uwch arolygydd Paul Jones ddydd Sadwrn: "Hoffwn ddiolch i’r tystion sydd eisoes wedi cysylltu gyda ni. Mae’n bwysig i ni wybod ble aeth Lily yn ystod y nos ac rwy’n annog pawb oedd yn yr ardal i gysylltu.
"Mae teulu Lily yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol ac rydym yn meddwl amdanynt yn ystod y cyfnod anodd yma."
Fe all unrhyw un sydd gan wybodaeth gysylltu gyda'r heddlu gan ddefnyddio'r cyfeirnod DP-20211217-041.