Newyddion S4C

Tafarn gymunedol yn ailagor ei drysau wedi bron i bedair blynedd ynghau

Heno 18/12/2021

Tafarn gymunedol yn ailagor ei drysau wedi bron i bedair blynedd ynghau

Mae tafarn yng Ngwynedd wedi ailagor yn swyddogol yn dilyn ymgyrch gan y gymuned leol i brynu’r safle a’i throi yn adnodd i’r gymuned.

Agorwyd drysau Ty’n Llan yn Llandwrog nos Wener gan groesawu cwsmeriaid am y tro cyntaf ers 2017.

Ond y tro hyn, bydd nifer o’r cwsmeriaid yn berchnogion eu hunain, ar ôl i lawer o’r gymuned brynu siariau yn y dafarn.

Llwyddodd ymgyrch Menter Ty’n Llan i godi’r £400,000 oedd ei angen i brynu’r dafarn sydd yn bron i 200 oed yn gynharach yn y flwyddyn.

Cafodd y £120,000 olaf ei godi yn ystod y dyddiau olaf cyn y dyddiad cau, gyda neges ar y cyfryngau cymdeithasol gan yr actor Rhys Ifans yn helpu’r achos.

Yn ôl rheolwr bar newydd y dafarn, Catrin Jenkins, mae misoedd o baratoi wedi arwain at yr agoriad.

“Da ni wedi bod yn gweithio dros y chwe, saith mis diwethaf yn gwneud yn siŵr fod popeth yn ei le ac yn saff.

“Da ni yma o’r diwedd a ma’ pobol i mewn cyn y Nadolig felly mae’n neis iawn gweld pawb yma.”

Image
tyn llan
Mae Ty’n Llan yn awyddus i glywed barn trigolion yr ardal am gynlluniau i adeiladu estyniad yng nghefn y dafarn.

Nid tafarn yn unig fydd Ty’n Llan, ond mae bwriad i’w sefydlu fel adnodd i’r gymuned ar gyfer pob math o anghenion.

“Y cynlluniau dros y misoedd nesaf yw codi mwy o arian fel ein bod ni’n gallu adeiladu estyniad yn y cefn er mwyn cynnal gwasanaethau eraill yn y dyfodol.

“Mi fydd na fwyty yn yr estyniad,  ac mi yda ni’n meddwl am edrych ar y stafelloedd i fyny grisiau fel bod modd cynnig gwely a brecwast.”

‘Mwy na thafarn’

Ychwanegodd: “Mae o ar gyfer pawb yn y pentre’, ar gyfer pawb yn yr ardal.

“Mae na lot wedi cael peint yma heno, mae na lot wedi cael panad yma bore ma' – mae 'na rywbeth i’w gynnig i bawb.”

Mae hi wedi bod yn bron i bedair blynedd hir ers i bobl Llandwrog gael rhywle i allu cymdeithasu yn eu cymuned.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.