Cyfradd Covid-19 ar ei hisaf ers diwedd yr haf
Mae’r gyfradd o Covid-19 fesul 100,000 o’r boblogaeth yng Nghymru ar ei hisaf ers diwedd Awst.
Bellach, mae’r gyfradd heintio dros Gymru gyfan yn 24.8 achos ymhob 100,000 o’r boblogaeth, yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Daw hyn wrth i ddwy farwolaeth arall gael eu cofnodi yn gysylltiedig â Covid-19, a 126 o achosion newydd gael eu cyhoeddi yng Nghymru ddydd Mawrth.
Mae’r gyfradd o achosion fesul 100,000 o’r boblogaeth yn is na 50 ymhob un o’r 22 sir, a hynny am y tro cyntaf mewn saith mis.
Mae’r gyfradd ar ei huchaf yn siroedd y gogledd, gyda Gwynedd ar 42.5 achos fesul 100,000 o’r boblogaeth ac Ynys Môn yn 41.4.
Mae’r gyfradd ar ei hisaf ym Mhen-y-Bont ar Ogwr, gyda 7.5 achos fesul 100,000 o’r boblogaeth.
Yn ôl ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol, cofnodwyd 49 o farwolaethau yn gysylltiedig â Covid-19 yn yr wythnos hyd at 19 Mawrth - y nawfed wythnos yn olynol i’r ffigwr ostwng.
Mae 5,521 o bobl bellach wedi marw yn gysylltiedig â’r feirws, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 1,493,192 o bobl bellach wedi derbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn Covid-19 yng Nghymru, gyda 469,251 wedi derbyn yr ail ddos.
Daw’r newyddion calonogol wrth i Gymru baratoi i ail agor holl siopau nad ydynt yn hanfodol o ddydd Llun, 12 Ebrill ymlaen.