Newyddion S4C

Covid-19: Gwerthu nwyddau anhanfodol eto

Mae archfarchnadoedd yn cael gwerthu nwyddau anhanfodol unwaith eto.  Llun: reverent (drwy Pixabay)

Mae archfarchnadoedd Cymru yn cael gwerthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol unwaith yn rhagor wrth i'r cyfyngiadau ar siopau gael eu llacio ddydd Llun.

Bydd canolfannau garddio hefyd yn cael ail-agor.

Mae'r rheolau ar werthu nwyddau wedi bod mewn grym ers i Gymru fynd dan gyfyngiadau'r cyfnod clo presennol ganol mis Rhagfyr.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, roedd y mesurau wedi eu cyflwyno er mwyn ei gwneud hi'n decach i fusnesau sydd wedi gorfod cau o ganlyniad i'r cyfyngiadau.

Cafodd y rheol ei beirniadu gan eraill pan ddaeth hi i rym fis Rhagfyr.

Dyma yw'r cam cyntaf wrth lacio'r cyfyngiadau ar siopau nad ydynt yn hanfodol wrth i siopau sydd wedi gorfod cau eu drysau baratoi i ail-agor ar 12 Ebrill.

Yn ôl cynllun Llywodraeth y DU, bydd siopau nad ydynt yn hanfodol yn cael ail-agor yn Lloegr hefyd ar 12 Ebrill.

Bydd siopau anhanfodol yr Alban yn cael ail-agor o Ebrill 26.

Nid yw Llywodraeth Gogledd Iwerddon wedi cyhoeddi pryd fydd modd i siopau anhanfodol ail-agor yno, ond bydd gwasanaethau clicio a chasglu y siopau hyn yn cael ail-ddechrau o Ebrill 12.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.