
Cynllun cyfeillion digidol yn chwilio am siaradwyr Cymraeg

Cynllun cyfeillion digidol yn chwilio am siaradwyr Cymraeg
Mae cynllun sy’n cynghori pobl sut mae defnyddio’u dyfeisiau cyfrifiadurol yn galw am siaradwyr Cymraeg i’w helpu.
Amcan prosiect Cyfeillion Digidol Sir Ddinbych yw paru unigolion sydd angen cymorth gyda gwirfoddolwyr sy’n gallu cynnig arweiniad dros y ffôn.
Ond prin yw’r rheiny sy’n medru gwneud hynny’n ddwyieithog ar hyn o bryd, er bod y fenter eisiau cynnig y gwasanaeth “yn yr iaith mae pobl fwyaf cyfforddus yn ei siarad”.
Wrth galon y syniad mae cydnabyddiaeth “bod ‘na ganran fawr o bobl yn dal yn ddihyder ar y we,” yn ôl Deian ap Rhisiart o Gymunedau Digidol Cymru (CDC).
“Mae’r ystadegau’n dangos bod allgau digidol yn dod law yn llaw efo allgau economaidd,” meddai.
“Mae’r ddau yn gysylltiedig iawn â’i gilydd - ac mae’n rhywbeth ‘dan ni fel rhaglen yn trio ei oresgyn.”
'Gwahaniaeth mawr'
Lansiwyd y cynllun Cyfeillion Digidol lleol yn gynharach eleni gan CDC, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSDd) a Chyngor Sir Ddinbych.
Ac mae wedi gwneud gwahaniaeth - drwy gyfrwng y Saesneg - yn barod.
“Roedd dyn yma’r diwrnod o’r blaen oedd yn cael trafferth efo tablet,” meddai Rhys Hughes o CGGSDd.
“Rhywbeth mor syml â’i helpu i gysylltu â’r we a chysylltu â’i chwaer o. Mae’n rhywbeth syml weithiau, ond mae’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr.”

Ond byddai medru rhoi cymorth yn Gymraeg hefyd yn fuddiol, yn ôl Mr Hughes.
“‘Dan ni’n byw mewn ardal lle mae ‘na lawer o siaradwyr Cymraeg, yn enwedig mewn ardaloedd mwy gwledig, felly mae’n bwysig ein bod ni’n rhoi’r cyfle i bobl gael y cymorth yma yn y ddwy iaith.
“‘Dan ni eisiau ei roi o yn yr iaith mae pobl fwyaf cyfforddus yn ei siarad, felly mae’n bwysig i ni gael gwirfoddolwyr sy’n gallu cynnig y gwasanaeth yma yn Gymraeg.”
'Grymuso cymunedau'
Nododd adroddiad gan un o bwyllgorau’r Senedd y llynedd bod “perygl o eithrio rhai siaradwyr Cymraeg hŷn a bregus” wrth i fwy o weithgareddau symud ar-lein yn sgil Covid-19.
Mae’n bwynt a godwyd hefyd yn adroddiad pum mlynedd Comisiynydd y Gymraeg, a ddywedodd bod “rhai wedi eu hamddifadu o’r cyfleoedd cymdeithasol digidol gan effeithio’n niweidiol… ar y cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.”
Felly, yn ôl Deian ap Rhisiart, gallai siaradwyr Cymraeg Sir Ddinbych newid bywydau pobl trwy wirfoddoli gyda’r cynllun Cyfeillion Digidol.
“Mae’n rhaglen ni yn tueddu i anelu at arfogi gwirfoddolwyr. Y rheswm am hynny ydy ein bod ni eisiau gadael effaith a bod yr effaith yna yn ein cymunedau ni - i rymuso cymunedau i allu gwneud rhywbeth eu hunain a’u gwneud nhw’n fwy annibynnol," meddai.
“Os ‘dach chi’n teimlo eich bod eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned, dyma’ch cyfle chi.
“Mae’r pethau bach ‘ma yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl, a dyna ydy’r nod yn pendraw.”
Mae modd gwirfoddoli, neu ofyn am help gyda theclynnau digidol, drwy gysylltu gyda CGGSDd.