Newyddion S4C

'Y ffaith bo chi ar dabledi iechyd meddwl ddim yn ‘neud chi’n wan’

13/12/2021

'Y ffaith bo chi ar dabledi iechyd meddwl ddim yn ‘neud chi’n wan’

Yn y Deyrnas Unedig heddiw mae un o bob wyth oedolyn sydd â chyflyrau iechyd meddwl yn cael rhyw fath o driniaeth.

Mae'r rhain yn amrywio o gwnsela, meddyginiaethau, neu gyfuniad o’r ddau.

Ond mae ymgyrch sydd wedi’i arwain gan feddyg a dylanwadwr o Gymru wedi rhoi sylw i’r stigma sy’n bodoli o amgylch meddyginiaethau at iechyd meddwl.

Dechreuodd ymgyrch #PostYourPill gan Dr Alex George, fel ymgais i gael gwared â’r stigma ac i annog pobl i fod yn fwy agored am driniaethau.

Yn ôl un ferch ifanc o Wynedd sydd wedi cefnogi’r ymgyrch, roedd yr hyn yr oedd hi’n clywed am feddyginiaeth cyn dechrau eu cymryd yn ei “dychryn”.

'Methu gweld dyfodol i fi'n hun' 

Mae Gwenllian Griffiths, 19 oed, wedi dioddef o iselder ers yn 13, ac wedi bod ar feddyginiaeth ers yn 16 oed.

“Do ni methu gweld dyfodol i fi’n hun,” meddai.

“Ges i lot o help, a mynd lawr pob route oeddan ni’n gallu meddwl am, ond yn y diwedd oedd o’n eithaf amlwg na thabledi o ni angen.

“Mae o’n teimlo bron fatha neshi ddisgwyl o 13 i 16 oed i gael ar y tabledi.”

Image
gwenllian gyda ffrind
Gwenllian (dde) gydag un o'i ffrindiau. 

Ond doedd y penderfyniad i ddechrau cymryd meddyginiaethau ddim yn benderfyniad ddaeth yn hawdd.

“Oedd pawb yn dweud: ‘O os ti ar dabledi iselder, ti’n mynd fatha zombie – ti jyst ddim hefo emosiynau wedyn’.

“Oedd hynny’n dychryn fi, ac oni’n meddwl: so dwi byth am fod yn hapus.

“Ond oedd rhaid ifi feddwl: ‘Ydw i isho byw fel ydw i rŵan, ta fysa yn well gennai fyw fel zombie?

“Yn y diwedd nes i ddeud, nai neud rhywbeth i beidio bod fel hyn."

Mae Gwenllian yn teimlo bod angen addysgu pobl yn well am driniaethau iechyd meddwl ac y gallai’r stigma sy’n ynghlwm â meddyginiaethau gael effaith ar berson bregus.

“Mae pobl yn meddwl am iselder fatha crio lot a bod yn drist, ond bod yn numb yndi’r darn gwaetha’, methu bod yn drist, methu crio am bethaf.

“Dydi’r ffaith bo’ chi ar dabledi ddim yn gwneud chdi’n waeth, ddim yn gwneud chi fwy sâl, ddim yn neud chi’n wan. Dydio ddim byd.”

‘Anwybodaeth’

Mae Dr Elin Ellis, ymgynghorydd mewn Seiciatreg hefyd yn credu bod mwy o stigma i gymryd meddyginiaethau.

Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd: “Mae yna stigma yn bendant, yn rhannol oherwydd anwybodaeth o gyflyrau iechyd meddwl ag o feddyginiaeth iechyd meddwl.

“Mae ‘na stigma yn y gymdeithas yn gyffredinol achos ma’ pobl yn meddwl weithia bod rhywun sy’n cymryd tabledi at iechyd meddwl yn ffordd ddiog o drio dygymod â’r broblem, ac mae rhai pobl yn meddwl bod o’n dangos gwendid.

“Hefyd mae pobl yn meddwl bod y tabledi yn llonyddu person, gwneud i berson fod fel zombie, mae pobl hefyd yn meddwl bod y meddyginiaethau yn gaethiwus, a dydi’r pethau yma ddim yn wir ar y cyfan.

“Mae triniaethau siarad yn gweithio yn dda fel rheol, ond ma’ nhw’n gweithio i gyflyrau sydd ddim yn ddwys iawn. Weithiau dydi siarad ddim yn ddigonol, ac mae meddyginiaethau yn gweithio, neu gyfuniad o’r ddau beth.

Image
post your pill
Mae ymgyrch #PostYourPill Dr Alex George wedi denu miloedd o ymatebion. 

Mae Gwenllian yn credu mai siarad yw’r ateb yn y tymor hir, ond mae hi’n dweud na fyddai wedi gallu gwneud hynny heb feddyginiaeth.

“Mae’r tabledi wedi helpu fi siarad, achos byswn i ddim yn fama heb y siarad, a byswn ni ddim yn fama heb y tabledi. Mae’r ddau beth yn mynd hefo’i gilydd.

“Erbyn heddiw dwi’n teimlo be dwi’n neud ydi dysgu i fyw efo fo.”

Fe benderfynodd rannu llun o’r tabledi y mae hi’n cymryd fel rhan o’r ymgyrch #PostYourPill, er mwyn dangos “bod hi’n oce i fod angen help ychwanegol”.

“Oni’n teimlo mor unig, ac yn meddwl bod 'na rywbeth yn bod arna i.

“Oni’n meddwl bod rhywbeth yn seriously bod hefo fi – nid problem iechyd meddwl, oni’n meddwl bod rhywbeth yn bod.

“A swni wedi neud rhywbeth i gael rhywun yn dweud wrtha i, ti’n iawn – ma hyn ond yn rhywbeth ti angen ei sortio.”

'Defnyddio cyngor yn ofalus' 

Yn ôl Dr Ellis, mae unrhyw ymgyrch sydd yn “lleihau stigma iechyd meddwl yn beth da.”

Ond mae hi’n pryderu y gallai ymgyrchoedd o’r fath annog pobl i feddwl eu bod angen meddyginiaethau, cyn trio triniaethau eraill yn gyntaf.

“Beth sy’n gallu digwydd efo ymgyrchoedd fel ‘ma ydi, bod pobl yn mynd at ei meddyg teulu yn gofyn am feddyginiaethau er bod canllawiau meddygol yn nodi dylid trio pethau eraill yn gyntaf.”

Ei chyngor yw y dylai unrhyw berson sy’n dioddef o iechyd meddwl fynd i weld eu meddyg teulu fel cam cyntaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.