
Pobl ifanc yn teimlo'n fwy pryderus am yr argyfwng hinsawdd ar ôl COP26

Pobl ifanc yn teimlo'n fwy pryderus am yr argyfwng hinsawdd ar ôl COP26
Mae pobl ifanc o Gymru wedi siarad am eu profiadau o deimlo’n bryderus iawn am yr hinsawdd yn dilyn uwchgynhadledd COP26.
Wrth siarad gydag ITV Cymru, dywed rhai na chafodd uwchgynhadledd hinsawdd COP26, a gynhelir yng Nglasgow ym mis Hydref, effaith gadarnhaol ar eu teimladau.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod wedi buddsoddi yn addysg i wella’r ddealltwriaeth am newid hinsawdd.
Mewn ymchwil diweddar gan Brifysgol Caerfaddon, dywed 60% o bobl ifanc eu bod yn teimlo’n bryderus iawn dros newid hinsawdd.
Roedd dros hanner ohonynt yn credu fod dynoliaeth yn mynd i fethu, mewn astudiaeth oedd yn cynnwys ymatebion o 10 gwlad.

Un sydd wedi profi hyn ers y gynhadledd amgylcheddol, COP 26, yw’r ymgyrchwr Sam Barrett o Abertawe.
Buodd Sam, 16, yng Nglasgow ar gyfer COP26 fel dirprwy arsylwr.
Wrth siarad am y gynhadledd, dywedodd: “Mae’n bendant wedi fy ngwneud yn fwy pryderus am y dyfodol … mewn gwirionedd does dim byd wedi newid ar ôl COP26, ac mae hynny’n frawychus.”
“Cyflwr meddwl sylfaenol, underlying state of mind, sydd yna drwy’r amser yw pryder hinsawdd i mi.”
“Mae'r syniad bod diffyg gweithredu llywodraethau ac arweinwyr heddiw eisoes yn arwain at gymaint o ddioddefaint, a fydd ond yn cynyddu wrth symud ymlaen, mae’n bryderus iawn” meddai Sam.
'Pwysig bod cyfathrebu rhwng oedolion a phobl ifanc'
Pan fydd y pryder yma yn fwy difrifol gelwir yn ‘Pryder Hinsawdd’ neu ‘eco-anxiety’ sef pryder eithafol am niwed i'r amgylchedd.
Ond yn ôl Dr Marc Williams, sy’n seicolegydd clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd, dydy Pryder Hinsawdd ddim yn cael ei ystyried fel rhywbeth a all gael diagnosis ffurfiol a dydy hi ddim yn cael ei ystyried yn ‘salwch meddyliol’ yn y maes iechyd meddwl proffesiynol.
“Mae hi’n hollol normal teimlo trallod a phryder dros y sefyllfa amgylcheddol. Wedi dweud hynny gall pobl ifanc gael teimladau dwys iawn sydd ar adegau yn amharu ar eu bywydau.”
“Elfen arall bwysig o’r ymchwil a ddaeth o Gaerfaddon yw bod pobl ifanc ledled y byd yn teimlo fel petai’r llywodraethau yn eu bradychu drwy beidio gweithredu’n ddigonol i ddatrys newid hinsawdd. Mae’n bwysig felly sicrhau sgwrs agored rhwng y bobl ifanc ac oedolion er mwyn sicrhau bod pryderon bobl ifanc yn cael eu hadnabod.”

Yn ôl astudiaeth Prifysgol Caerfaddon mae 65% o bobl ifanc yn y DU yn cytuno bod llywodraethau yn methu pobl ifanc a dim ond 28% oedd sy’n ymddiried yn llywodraethau.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod wedi buddsoddi yn addysg i wella’r ddealltwriaeth am newid hinsawdd.
“Credwn fod lles emosiynol a meddyliol pobl ifanc yn hanfodol os ydyn nhw am gyrraedd eu potensial llawn.”
“Bydd Cwricwlwm newydd Cymru yn galluogi gwell addysgu a dysgu am yr argyfwng hinsawdd ac yn hwyluso deialog ehangach ar y pwnc.”
“Rydyn ni hefyd wedi darparu cyllid uwch nag erioed eleni i ddarparu ymyriadau llesol ar gyfer bron i 30,000 o bobl ifanc mewn ysgolion a hyfforddiant i dros 4,000 o staff.”