Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych yn gadael ei swydd
Fe fydd Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych yn gadael ei swydd wedi tair blynedd wrth y llyw.
Dywedodd yr awdurdod fod cyfnod Judith Greenhalgh gyda'r cyngor yn dod i ben ar 6 Ebrill er mwyn cymryd saib o'i gyrfa "am resymau personol".
Fe ddiolchodd llefarydd o'r cyngor am ei chyfraniad gan ddymuno'r gorau iddi ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: “Byddwn yn cymryd camau i recriwtio Prif Weithredwr newydd dros y misoedd nesaf.
"Bydd ein dau Gyfarwyddwr Corfforaethol yn ymgymryd â chyfrifoldebau arwain, gyda chefnogaeth yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth, nes bydd y Prif Weithredwr newydd yn ei swydd.
"Yn y cyfamser, mae holl swyddogion ac aelodau etholedig Sir Ddinbych yn parhau i weithio gyda'i gilydd i gyflawni ein hymrwymiad i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i breswylwyr.”