Gweithiwr gofal yn ennill £1m ar gerdyn loteri

Mae gweithiwr gofal o'r de yn dathlu ar ôl ennill £1m ar gerdyn loteri.
Dywedodd Sara Thomas, 26, o Dreharris nad oedd hi'n prynu'r cardiau fel arfer, a bod y wobr annisgwyl wedi dod fel cryn sioc iddi.
Ei gobaith yw sefydlu busnes a diogelu dyfodol ei phlant gyda'r arian, medd adroddiad ITV Cymru.