Newyddion S4C

Ffermwyr ieir yn pryderu wrth i fesurau ffliw adar ddod i rym

Ffermwyr ieir yn pryderu wrth i fesurau ffliw adar ddod i rym

Mae ffermwyr ieir yn pryderu dros les eu hadar wrth i fesurau argyfwng gael eu cyhoeddi i geisio atal y lledaeniad o ffliw adar. 

Cafodd y mesurau eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ddydd Iau wrth i dri achos o’r ffliw gael eu cofnodi ers mis Tachwedd. 

Mae swyddogion wedi rhybuddio y bydd y Deyrnas Unedig yn wynebu'r nifer fwyaf o achosion o'r haint erioed gyda miloedd o adar eisoes wedi eu difa. 

Gofynnwyd i bobl sy’n cadw adar i ddilyn y mesurau yn llym, megis cadw eu hieir dan do, i geisio atal lledaeniad y ffliw. 

Dydy'r haint ddim yn peri llawer o risg i bobl ond mae'r sefyllfa eisoes wedi codi pryder ymysg ffermwyr. 

Image
Ioan Humphreys

Mae Ioan Humphreys yn rhedeg fferm deulu yng Ngharno ac yn darparu 220,000 o wyau bob wythnos i archfarchnadoedd. 

"Mae'n siomedig i weld yr ieir ar 'lockdown'," meddai. 

"Mae angen wneud o, i gadw'r ieir yn saff. Ond mae'n anodd." 

"Mae prisiau bwyd yn mynd fyny ac mae nhw'n byta mwy tu mewn."

"So mae'n costio fwy i'r busnes, a dwi ddim cweit yn credu eu bod nhw am ddodwy gymaint o wyau pan mae nhw ddim yn gallu mynd tu allan."

"So, ie, dwi'n colli arian."

'Anodd iawn ei reoli' 

Yn ôl y milfeddyg Meleri Tweed, mae'n anodd rheoli ffliw adar wrth i'r haint ledaenu drwy anifeiliaid gwyllt. 

"Dros y gaea' mae hyn yn digwydd, wrth i adar ymfudo i Brydain, ac mae fe'n gallu para lan hyd at mis Mawrth," meddai. 

"Mae e'n anodd iawn i reoli, oherwydd bod gymaint o fe yn yr adar gwyllt, a sdim byd gallwn ni neud amdano rheini wrth gwrs."

"Does dim byd gallwn ni neud i stopio nhw trafeilio a mynd a'r ffliw gyda nhw." 

Ychwanegodd Ms Tweed y gallai’r  sefyllfa waethygu dros y misoedd nesaf. 

"Y gofid yw wrth gwrs, ma'r niferoedd o ffermydd sydd wedi cael ei effeithio yn barod yn uwch na llynedd a ni dal yn eitha cynnar yn y cyfnod."

"Wedyn wrth gwrs ma' gofid bod pethau'n mynd i waethygu dros y tri neu bedwar mis nesaf."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.