Newyddion S4C

'Ni wastad yn meddwl am dad': Galw am gyflwyno trosedd newydd o ddinistrio corff

Newyddion S4C 03/12/2021

'Ni wastad yn meddwl am dad': Galw am gyflwyno trosedd newydd o ddinistrio corff

Mae bron i ddwy flynedd ers i Michael O’Leary, oedd yn dad i dri, gael ei lofruddio yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd yn cael ei ddisgrifio'n aml fel curiad calon y clwb rygbi lleol - clwb Nantgaredig.

Yn ôl ei deulu, mae cwestiynau yn bodoli o hyd ynglŷn â beth yn union ddigwyddodd ym mis Ionawr 2020 pan gafodd ei ladd gan Andrew Jones.

Mae mab Michael, Wayne O’Leary yn cefnogi ymgyrch sy’n galw am gyflwyno trosedd newydd i gosbi'r rheini sydd yn ‘dinistrio corff’.

Yn cael ei adnabod fel ‘Helen’s Law 2’, nod yr ymgyrch yw cydnabod y boen meddwl ychwanegol sy’n cael ei achosi i deuluoedd pan fo corff yn cael ei guddio neu ei ddinistrio.

Image
Michael O'Leary
Cafodd Michael O'Leary ei ladd llynedd

“Ni fel teuluoedd yn gorfod diodde oes o gwestiynau heb atebion. Pam ddylen nhw gael dod mas ar ôl 20, 30 mlynedd a chario mlaen da’u bywyde’, pan mae’r holl gwestiynau heb atebion gyda ni ar hyd ein bywyde?”, meddai Wayne.

Saethodd Andrew Jones Mr O’Leary, a llosgi corff ei ffrind mewn iard adeiladu tu ôl i’w gartref ar ffordd Bronwydd yng Nghaerfyrddin.

“Dwi dal ddim yn credu fe ar adege’”, meddai Wayne.

“Ni fel teulu - ni’n siarad am yr holl beth, a dal yn methu credu, unwaith odd Dad wedi mynd, ond hefyd, o ran y ffordd aeth e’, a beth nath ddigwydd wedyn, mae’n hollol erchyll.”

Fel rhan o’u hymchwiliad, fe ddaeth Heddlu Dyfed Powys o hyd i ddarn o goluddyn bach ar safle iard Jones. Fe ddatgelodd profion bod y meinwe wedi dod o gorff Mr O’Leary.

“Y ddim gwybod sy’n achosi i ni stryglo” ychwanega Wayne.

“Ma’r CCTV, ti’n gweld e’n dod mas ar ôl llosgi’r corff. Ma’n dod mas o’i iard e’ a troi i’r chwith am chwe munud, a dod yn ôl, a dyw e ddim yn gallu esbonio beth nath e’ yn ystod y chwe munud yna."

Image
Michael O'Leary a'i meibio

"Dyna sy’n fy buggo fi lot. Fi’n meddwl amdano fe, beth nath e yn y chwe munud ‘na?”

“’Na’r peth anodda’ i ni fel teulu o ran symud mlan. Peidio gwybod beth ddioddefodd Dad. Beth yn union ddigwyddodd. Ac yn y diwedd, beth ddigwyddodd i’w gorff e’ a’i weddillion.”

Fe dreuliodd Marie McCourt, 78 oed, dros bum mlynedd yn ymladd yn llwyddiannus am ‘Helen’s Law’ er cof am ei merch Helen, 22 oed, gafodd ei lladd yn 1988.

Chafodd ei chorff erioed mo’i ddarganfod.

Yn sgil y ddeddwriaeth, mi all rhai sy’n llofruddio wynebu cyfnod hirach yn y carchar, a pharôl yn cael ei wrthod, os ydyn nhw’n gwrthod datgelu ble mae’r corff.

Bellach, mae’n mynd a’i hymgyrch gam ymhellach gan alw am ddwy drosedd newydd sbon – dinistrio corff a chuddio corff. Mae’n dweud bod angen cyflwyno’r troseddau hyn i gydnabod yr hyn mae’n ei ddisgrifio fel ‘dedfryd oes ychwanegol i deuluoedd’.

“Fe ddylen nhw gael eu dyfarnu’n euog o’r farwolaeth, ond fe ddylen nhw hefyd gael eu cyhuddo o beth wnaethon nhw i’r corff. Mae angen diweddaru hynny.

“Ar hyn o bryd mae’n annigonol”, meddai Marie. 

Image
Helen McCourt
Ni chafodd corff Helen McCourt erioed ei ddarganfod

“Yn fy marn i, a dyma’r hyn o’n i wastad yn ei feddwl, pam na chafodd e’i gyhuddo o rwystro claddu’r corff, am ddinistrio corff? Mae’r rhain i gyd yn bethau pwysig; achos i’r teuluoedd, dy’n nhw ddim yn unig yn colli anwylyn, ond mae’r teulu hefyd mewn ‘limbo’ am weddill eu bywydau.”

Yr hyn sydd wedi annog Marie i ymgyrchu yw’r cynnydd yn nifer y rhai sy’n lladd sy’n cuddio cyrff a cheisio’u dinistrio, er mwyn osgoi mynd o flaen eu gwell. 

“Ers 2007/8, mae na 54 dyfarniad o lofruddiaeth wedi bod heb i gorff gael ei ddarganfod”, meddai Marie.

“Wrth i dechnegau fforensig ddod yn fwy soffistigedig, mae llofruddion yn troi at ffyrdd mwy difrifol i guddio tystiolaeth o’u troseddau. Mae na gynnydd mawr wedi bod yn nifer y rhai sy’n cael eu llofruddio sy’n cael eu datgymalu a’u llosgi.

“Mae’r boen meddwl mae hyn yn ei achosi i deulu’r dioddefwr yn aruthrol. Ond eto, yn rhy aml, dydy’r llofrudd ddim yn cael unrhyw gosb ychwanegol am wneud hyn ar ôl y llofruddiaeth.

Image
Marie McCourt
Mae Marie McCourt wedi ymgyrchu dros ddeddfwriaeth newydd ers marwolaeth ei merch yn 1988

"Mae’r rhain yn weithredoedd pwrpasol, creulon. Heb newid yn y gyfraith i adlewyrchu pa mor ddifrifol mae’r troseddau hyn, a’r boen meddwl sy’n cael ei achosi, bydd achosion yn parhau i godi.

“Dydy ein deddfwriaeth bresennol ddim yn addas. Mae na fwlch mawr yn ein system gyfreithiol, ac mae angen ei lenwi,” meddai Marie.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain: “Mae’r troseddau hyn yn hynod ffiaidd ac mae troseddwyr yn wynebu nerth llwyr y gyfraith dan y troseddau sydd eisioes yn bodoli, heb sôn am lofruddiaeth sy’n dod â dedfryd orfodol o garchar am oes.”

Cafodd sylw ei roi i’r ymgyrch yn Nhy’r Arglwyddi, fel gwelliant posibl i’r Mesur Plismona, Trosedd, Dedfrydu a Llysoedd, sydd ar ei ffordd drwy’r Senedd ar hyn o bryd.

Mae Jonathan Edwards, Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn credu bod angen codi cwestiynau am y ddeddfwriaeth bresennol: 

“Dwi’n credu bod na ddadl gref, pan fo rhywun yn dinistrio corff, neu’n cuddio corff ar ol llofruddiaeth, bod hynny’n creu dioddefaint ychwanegol i’r teulu, ac mae angen i hynny gael ei gydnabod gan y gyfraith."

Ychwanegodd: “Mae dwy ffordd o wneud hynny. Ry’ch chi un ai’n dod a throsedd newydd i mewn, am ddinistrio neu guddio, neu, bod na ganllawiau dedfrydu clir, pan fo llofrudd yn cael ei ddyfarnu’n euog, bod na gosb ychwanegol yn deillio o hynny.”

I deulu Michael O’Leary, mae artaith y ddwy flynedd ddiwethaf yn cael effaith arnyn nhw bob dydd. Mae’r ymgyrch yn rhoi pwrpas iddyn nhw, yn ôl Wayne O’Leary:

“Ma achosion llofruddiaeth heb corff ar y funud yn cynyddu yn anffodus. Chi’n gweld ar y funud da achos Sarah Everard." 

"Ma pobol nawr yn mynd i’r eithaf i drio cael gwared ar unrhyw dystiolaeth, yn cynnwys cyrff yn anffodus, a prin iawn ma’ nhw’n cael eu cosbi am hwnna yn ogystal â llofruddiaeth. Felly ni isie gweld newid i’r system.  

“Ni wastad yn meddwl am Dad. Ni’n meddwl amdano bob dydd. Mae cymaint o atebion nad y’n ni wedi eu cael, a falle na chewn ni fyth. Ond mae’n rhaid i ni symud ‘mlan."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.