Newyddion S4C

Dyn o Ben-y-bont yn euog o ddynladdiad wedi ymosodiad ym Mhorthcawl

03/12/2021
Dynladdiad

Yn Llys y Goron Caerdydd mae dyn o Ben-y-bont ar Ogwr wedi ei gael yn euog o ddynladdiad, yn dilyn marwolaeth dyn ym Mhorthcawl yn ystod yr haf.

Roedd Christopher George, 27, o'r Pîl wedi dyrnu Carl Chinnock, 50, ar ôl bod yn yfed gyda ffrindiau yn y dref ar 23 Mehefin.

Ychydig cyn 23:30 roedd George yn cerdded gyda'i ffrindiau cyn mynd at Mr Chinnock.

Dywedodd ei gyfeillion eu bod wedi gweld Mr Chinnock yn disgyn yn ôl gan daro ei ben wedi i Christopher George ei daro yn ei wyneb.

Rhedodd y diffynnydd o'r lleoliad ger maes parcio Salt Lake gan ddal tacsi adref a gadael ei ffrindiau i gymryd gofal o Mr Chinnock.

Clywodd y llys fod George wedi dweud wrth y gyrrwr tacsi ei fod wedi rhoi 'slap' i rywun.

Cafodd Mr Chinnock ei gludo i Ysbyty Tywysoges Cymru ond ni wnaeth ei anafiadau wella. Roedd wedi dioddef gwaedlif ar ei ymennydd ac fe fu farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach.

Fe fydd Christopher George yn cael ei ddedfrydu ar 7 Ionawr ar ôl ei gael yn euog gan reithgor mewn achos llys oedd wedi para am dair wythnos.

Yn dilyn yr achos, dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark Lewis o Heddlu De Cymru: “Collodd teulu a ffrindiau Carl eu hanwylyd oherwydd trais Christopher George.

"Gwyddom o siarad â thystion fod y diffynnydd wedi cael ei danio gan alcohol a chyffuriau, ac roedd allan yn chwilio am drafferth y noson honno.

“Fel y mae’r achos hwn yn ei brofi, gall un dwrn ladd - mae unrhyw un sy’n credu fod ymosod yn dreisgar ar berson arall yn dderbyniol yn gamblo gyda bywyd eu dioddefwr, a hefyd eu bywyd eu hunain.

“Newidiodd bywyd Christopher George mewn eiliad y noson honno, ond collodd ei ddioddefwr, Carl Chinnock, ei fywyd yn ddiangen. Mae fy meddyliau diffuant heddiw gyda theulu a ffrindiau Carl.”

Llun: Heddlu De Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.