Newyddion S4C

Hospis yn 'gwahardd' ymgyrchwyr wedi 30 mlynedd ar ôl ffrae am y Gymraeg

North Wales Live 03/12/2021
Hospis Ty'r Eos

Mae grŵp o ymgyrchwyr wedi eu "gwahardd" rhag ymwneud ag elusen yn Wrecsam yn dilyn ffrae am ddefnydd y Gymraeg.

Dywed rhai o gefnogwyr Hospis Tŷ’r Eos yn Wrecsam eu bod wedi eu "gwahardd rhag rhyngweithio" gyda'r hospis wedi iddynt godi pryderon am "ddiffyg parch" yr elusen tuag at yr iaith Gymraeg.

Dywedodd John Morris ar ran y grŵp eu bod wedi derbyn llythyr gan Brif Weithredwr a Bwrdd Ymddiriedolwyr yr hospis oedd yn diolch am eu gwaith dros y 30 mlynedd diwethaf ond mai "dyma ddiwedd ein trafodaethau".

Dywedodd Mr Morris fod y grŵp "yn wirioneddol wedi brifo" gan y gwaharddiad.

Mewn datganiad, cadarnhaodd llefarydd ar ran yr hospis wrth North Wales Live fod y grŵp wedi cael cais i "beidio â cheisio ymyrryd ag a dylanwadu ar waith yr Hospis".

Gan ymateb yn uniongyrchol i'r honiadau am agwedd yr hospis tuag at yr iaith Gymraeg, ychwanegodd y llefarydd fod "yr Hospis yn falch iawn o'i hanes o ddefnyddio'r Gymraeg pan mae'n gallu".

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun: Hospis Tŷ’r Eos

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.