Omicron yn gallu osgoi imiwnedd drwy haint Covid blaenorol 'yn sylweddol'
Mae Omicron yn gallu osgoi imiwnedd drwy haint Covid-19 blaenorol "yn sylweddol", yn ôl canlyniadau astudiaeth newydd.
Mae'r canlyniadau'n awgrymu y gallai'r amrywiolyn newydd olygu cynnydd yn y nifer o achosion, hyd yn oed mewn poblogaeth sydd â chyfradd uchel o wrthgyrff.
Dengys yr ymchwil gan wyddonwyr yn Ne Affrica fod y risg o ddal Covid-19 fwy nag unwaith yn is yn ystod tonnau Beta a Delta o'i gymharu â'r don gyntaf ym Mawrth 2020.
Ond, roedd ail-heintio yn y don Omicron 2.4 gwaith yn uwch na thon gyntaf y pandemig.
Canlyniadau cychwynnol yw'r rhain ac nid ydynt wedi eu hadolygu'n swyddogol hyd yma, yn ôl Sky News.
Darllenwch y manylion yn llawn yma.