Newyddion S4C

Cyngor Gwynedd yn 'ystyried opsiynau cyfreithiol' wedi tro pedol cynllun ffordd osgoi

Cyngor Gwynedd yn 'ystyried opsiynau cyfreithiol' wedi tro pedol cynllun ffordd osgoi

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud eu bod nhw’n “ystyried opsiynau cyfreithiol” yn erbyn Llywodraeth Cymru yn sgil penderfyniad gweinidogion i beidio â bwrw ymlaen gyda ffordd osgoi Llanbedr. 

Yn ôl arweinydd y cyngor, Dyfrig Siencyn, mae adroddiad ar ran Llywodraeth Cymru sy’n edrych ar effaith y datblygiad ar lefelau CO2 yr ardal yn “gamarweiniol, rhagfarnllyd a gwallus”.

Mae’r Cynghorydd lleol, Annwen Hughes hefyd wedi cyhuddo Gweinidogion o roi “sbin gwleidyddol” ar y mater wrth gyhoeddi’r tro pedol yn ystod Cynhadledd COP 26 fis diwethaf.

Mewn ymateb dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford fod yr adroddiad yn ‘ymgais onest ac egwyddorol’ i gyfleu’r argyfwng hinsawdd ac na fyddai’n ail ystyried y mater.

Image
Llanbedr
Yn ôl pobl lleol, mae traffig wedi bob yn broblem yn Llanbedr am flynyddoedd

Mae’r galw am ffordd osgoi i Lanbedr yn ymestyn dros gyfnod o fwy na 60 o flynyddoedd oherwydd problemau traffig.

Roedd y cynllun wedi ei gymeradwyo'r llynedd gan Barc Cenedlaethol Eryri ond fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru na fydde nhw’n bwrw ymlaen gyda’r cynllun oherwydd effaith y datblygiad ar yr amgylchedd.

Yn ôl adroddiad a wnaed ar ran Llywodraeth Cymru gallai’r datblygiad gael effaith negyddol ar lefelau CO2 ac fe arweiniodd hynny at weinidogion yn cyhoeddi ym mis Tachwedd eu bod yn gwrthod y datblygiad.

Ond mae Cyngor Gwynedd rŵan wedi beirniadu’r adroddiad yna fel un “rhagfarnllyd” a “gwallus” gan gyhuddo’r llywodraeth o wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth anghywir.

“Mae’r holl waith ‘da ni wedi rhoi mewn yn rhan o’r rheswm dwi mor ddig ond yn fwy na dim ‘da ni’n gadael pobl Llanbedr i lawr”, meddai arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn.

Image
Cllr Dyfrig Siencyn

Mewn llythyr at Lywodraeth Cymru mae’n dweud fod:

  • Sail eu hadroddiad yn “wallus” ac nad oedd ystyriaeth i effaith y penderfyniad yn lleol
  • Llywodraeth Cymru wedi camarwain Cyngor Gwynedd
  • Y gwaith ymchwil yn “arwynebol”
  • Dangos diffyg dealltwriaeth ar yr effaith ar Faes Awyr Llanbedr
  • Dangos diffyg dealltwriaeth o faint a’r math o dwristiaeth yn lleol 

 

Yn ôl yr arweinydd mae’r cyngor yn edrych ar opsiynau cyfreithiol i herio penderfyniad Llywodraeth Cymru.

“Da ni ar ddechrau’r daith honno," dywedodd.

“Dwi ddim eisiau bygwth y llywodraeth ond os yda ni’n gweld fod ‘na sail gyfreithiol i ni hyd yn oed adennill ein costau yna fe ddylem ni wneud hynny”.

Prif sail Llywodraeth Cymru dros wrthod y mater yw pryderon fod y cynllun yn niweidiol i’r amgylchedd drwy achosi rhagor o allyriadau carbon.

Ond mae Cyngor Gwynedd yn dadlau fod gwaith ymchwil yn dangos y byddai lefelau yn gostwng o 3.6% gan na fyddai ceir yn sefyll yn stond ar lonydd cul yr ardal, yn enwedig dros gyfnod yr Haf.

O ffenest ei siop ar y brif ffordd mae Olwen Lloyd Jones yn gweld helyntion a thagfeydd yr ardal yn ddyddiol.

Flwyddyn yn ôl fe benderfynodd hi a’i theulu symud o Lanbedr i Harlech oherwydd pryderon am ddiogelwch y ffordd.

“Da ni ‘di mynd”, meddai.

“Dio ddim yn bell a dwi yma o hyd efo’r siop ond mai lot distawech a saffach yn Harlech.

“Mae gennai grandchildren ac oddo’n beryg, does dim pafin rili felly ddim yn saff o gwbl”.

Image
Olwen Lloyd Jones

Wedi’r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru i wrthod y cynllun, mae’r cynghorydd lleol Annwen Hughes wedi cyhuddo gweinidogion o roi “sbin gwleidyddol” ar y penderfyniad er mwyn ceisio dangos i wledydd eraill eu hymrwymiad i fynd i’r afael â newid hinsawdd,

Dywedodd bod y llywodraeth yn gwneud hynny ar draul pobl leol. 

Wrth ymateb i'r llythyr gan Gyngor Gwynedd, mae’r Prif Weinidog bellach wedi ysgrifennu yn ôl at arweinydd y Cyngor gan ddweud fod yr adroddiad yn ymgais “onest ac egwyddorol i geisio newid cyfeiriad polisi trafnidiaeth i ymateb i’r wyddoniaeth frawychus yn sgil newid hinsawdd”.

Mae’n cydnabod teimladau cryf pobl yn lleol ond yn dweud “ni fyddwn yn diwygio’r penderfyniad”.

Wrth ymateb i sylwadau’n lleol dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi ymgynghori gyda’r cyngor yn rheolaidd a’u bod wedi ymrwymo i weithio gyda’r awdurdod er mwyn canfod atebion cynaliadwy i fynd i’r afael â’r problemau traffig a thagfeydd yn lleol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.