Cynnydd mewn polisïau iechyd preifat yn 'peryglu dyfodol y gwasanaeth iechyd'
Cynnydd mewn polisïau iechyd preifat yn 'peryglu dyfodol y gwasanaeth iechyd'
Mae economegydd iechyd amlwg yn dweud bod cynnydd mawr yn nifer y bobl sydd yn prynu polisïau iechyd preifat yn peryglu dyfodol y gwasanaeth iechyd.
Yn ôl Dr Mary Lynch, sydd yn gweithio yn ysgol gwyddorau iechyd Prifysgol Bangor, fe allai'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd oherwydd Covid-19 greu system iechyd ddwy haen, lle mae'r rheiny sydd yn gymharol gefnog yn derbyn triniaeth well.
Dywedodd Dr Lynch wrth raglen Newyddion S4C: "Mae pwysau mawr wedi bod ar y gwasanaeth iechyd o ganlyniad i'r pandemig. Mae gan hynny'r potensial i gynyddu’r niferoedd sydd yn prynu polisïau gofal iechyd preifat ymhellach, yn enwedig o gofio'r oedi i driniaethau.
"Gallai hynny olygu bod y rheiny sydd ag incwm uwch yn gallu fforddio prynu polisïau a sicrhau canlyniadau iechyd gwell na'r rheiny sydd yn methu fforddio talu.
"Gallai hynny wedyn greu system lle mae pobl yn medru cael mynediad i driniaeth well yn seiliedig ar eu hincwm yn unig.”
Cynnydd yng Nghymru
Fe gadarnhaodd cwmni ActiveQuote.com, sydd â'i bencadlys ym Mae Caerdydd, eu bod nhw wedi gweld y niferoedd sydd yn prynu polisïau iechyd preifat yn cynyddu'n aruthrol dros y flwyddyn a hanner diwethaf.
Dywedodd eu pennaeth gwerthu a gweithredu, Rod Jones, wrth Newyddion S4C eu bod wedi gwerthu 88% yn rhagor o bolisïau ym mis Hydref eleni o'i gymharu â llynedd.
Rhwng Ionawr a Hydref 2021, roedd cynnydd o 43% ar draws gwledydd y Deyrnas Unedig mewn polisïau a werthwyd. Yng Nghymru, roedd y cynnydd yn 48%.
Doedd y cwmni ddim yn barod i ddatgelu faint yn union o bolisïau a werthwyd, ond fe gadarnhânt eu bod yn uwch na mil bob mis, gyda chwsmeriaid yn talu ymhell dros filiwn o bunnoedd bob mis am y polisïau.
Yn ôl Mr Jones, mae'r math o gwsmeriaid sydd yn prynu hefyd wedi newid ers dechrau'r pandemig.
"Yn draddodiadol, pobl hŷn sydd wedi bod yn cymryd polisïau fel hyn mas. Ond dros y 18 mis diwethaf, ni'n gweld mwy o bobl ifanc yn gwneud. Pan maen nhw'n darllen am amseroedd aros o fewn i'r Gwasanaeth Iechyd, mae elfen o banig.
"Dy'n nhw ddim eisiau aros, a pan maen nhw'n clywed am deulu a ffrindiau sydd yn aros am driniaeth, dyw pobl ifanc ddim yn deall pam bod angen aros. Mae popeth yn instant. Dyw aros i weld doctor ddim yn rhywbeth mae pobl yn disgwyl gorfod gwneud."
Un dyn sydd yn deall awydd rhai i brynu polisïau o'r fath yw Steve Dimmick.
Yn 46 oed, mae'n aros am lawdriniaeth i gael clun newydd.
"Mae fy mywyd nawr yn troi rownd lle alla'i barcio sydd agosaf at yr apwyntiad neu gyfarfod nesaf," meddai Mr Dimmick.
“Yn y gorffennol, byddwn i'n cerdded neu'n seiclo i lefydd, ond nawr mae popeth yn dibynnu ar ba mor bell fi'n gorfod cerdded mewn diwrnod. Mae'n broblem fawr."
Mae'n dweud iddo gael gwybod y byddai'n rhaid aros o leiaf 18-24 mis i gael llawdriniaeth drwy'r Gwasanaeth Iechyd.
Gan ei fod mewn poen yn barhaus, mae'n dweud iddo gymryd y cam anodd, a chostus, i dalu am driniaeth breifat.
'Alla'i ddim cario ymlaen'
"Dwi wedi gweithio am 30 blynedd, wedi talu cannoedd ar filoedd mewn i'r system. Nawr, pan rwyf ar y point of need, pan 'dw'i angen i'r GIG ddelifro i fi, dyw e ddim yna.
"Mae'n boenus. Dwi'n ddiolchgar i'r GIG am beth mae'n gwneud. Ond dwi mewn lle ble alla'i ddim cario ymlaen.
“Dwi wedi bod yn ffodus i bigo ychydig bach o waith ychwanegol lan fydd yn helpu gyda'r costau, a dyna beth dw'i am wneud."
Pan ofynnwyd a fyddai yn ystyried prynu polisïau yswiriant iechyd o edrych yn ôl, dywedodd Mr Dimmick: "Byddwn. Ond mae hynny'n hawdd dweud nawr.
“Roeddwn i'n ddyn ffit a iach. Roeddwn i'n chwarae rygbi, pel-droed, golff, rhedeg marathons. Ro'n i'n mwynhau bywyd.
“Ond byddai angen i bobl feddwl sut fydd eu cyrff yn ymdopi 3-5 mlynedd yn y dyfodol. Mae'n hawdd dweud nawr byddwn i'n prynu polisi, ond i fi, mae hynny'n ddwr dan bont."